Synopsis
Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.
Episodes
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 7fed o Fawrth 2023
07/03/2023 Duration: 14minPigion Dysgwyr – HandelCyfansoddwr y mis ar raglen Shan Cothi fore Llun oedd George Freidric Handel. Ymunodd Geraint Lewis â Shan i sôn mwy am y ffigwr mawr yma ym myd cerddoriaeth glasurol. Dechreuodd Geraint drwy sôn am dad Handel…Cyfansoddwr ComposerParchus RespectableCyfreithiwr LawyerOfferynnau InstrumentsColli ei dymer Losing his temperCwato To hideDianc To escapeDeifiol CraftyIachawdwriaeth! Goodness! (lit: salvation)Wrth reddf InstinctivePigion Dysgwyr – CoffiY cyfansoddwr Geraint Lewis oedd hwnna’n disgrifio sut dechreuodd gyrfa arbennig iawn Handel. Pnawn Llun ar Dros Ginio cafodd Cennydd Davies sgwrs gyda pherchennog cwmni coffi Poblado yn Nantlle, Gwynedd, sef Steffan Huws. Diben y sgwrs oedd ceisio dod i ddeall pam bod y diwydiant a’r diwylliant coffi mor boblogaidd y dyddiau hyn.Diben PurposeDiwydiant a diwylliant Industry and cultureDeniadol AttractiveArogl SmellCymdeithasol SocialHel atgofion ReminiscingMam-gu a tad-cu Nain a taid ` Pi
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 28ain o Chwefror 2023
28/02/2023 Duration: 13minPigion Dysgwyr – Heledd Sion ...dwy Heledd - Heledd Cynwal a’r gwestai ar ei rhaglen, Heledd Sion. Buodd y ddwy yn sôn am fyd ffasiwn ac yn arbennig felly am ddillad ail law. Dyma Heledd Sion yn esbonio sut dechreuodd ei chariad hi at ffasiwn, a pham aeth hi ati i werthu hen ddillad ar y weUwch seiclo To upcycleGwinio To sew Cyfnither Female cousinGwehyddu WeavingYn llonydd StillAddasu To adaptAwch Eagerness Esblygu To evolveDidoli To sortBuddsoddi To investPigion Dysgwyr - Francesca SciarilloHeledd Cynwal yn fanna’n cadw sedd Shan Cothi’n gynnes ac yn sgwrsio gyda Heledd Sion am uwch seiclo dillad. Francesca Sciarillo oedd Dysgwr y Flwyddyn yr Urdd yn 2019 ac eleni mae hi wedi bod yn gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Eidalwyr ydy rhieni Francesca, ac ar raglen Dei Tomos nos Sul buodd hi’n dweud faint o ddylanwad gafodd ei hathrawes Gymraeg arni, sef Nia Williams, pan oedd Francesca yn ddisgybl yn Ysgol Alun yr Wyddgrug .Disgybl PupilYr Wyddgrug MoldDylanwad
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 21ain o Chwefror 2023
21/02/2023 Duration: 13minPigion Dysgwyr – Aled Hughes 13.2Sut beth oedd golchi dillad cyn dyddiau peiriannau golchi, neu cyn dyddiau trydan hyd yn oed? Wel, yn ystod yr wythnos diwetha yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis, buodd plant ysgol yn cael gwybod mwy am hyn gan ‘ Anti Marged’ sef yr actores Rhian Cadwaladr. Dyma Mari Morgan o’r Amgueddfa yn sôn wrth Aled Hughes am y digwyddiad……Amgueddfa Lechi Genedlaethol National Slate MuseumDathlu arferion Celebrating the customDiwrnod penodol A specific dayPlantos KidsCyflwyno Presented Cymhleth ComplicatedRhoi benthyg To lendTeimlo trueni To pityBwrdd sgwrio Scrubbing boardChwarelwyr QuarrymenPigion Dysgwyr - Jo HeydePlant y gogledd yn cael dipyn o sioc dw i’n siŵr o ddysgu sut oedd golchi dillad ers talwm gan ‘Anti Marged’. Dim ond ers pedair blynedd mae Jo Heyde (ynganiad – Haidy Cymraeg) o Lundain wedi dechrau dysgu Cymraeg, ac mae hi erbyn hyn yn bwriadu dod i Gymru i fyw. Dyma hi’n dweud wrth Dei Tomos pryd dechreuodd ei diddordeb hi yn y Gy
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 14eg o Chwefror 2023
15/02/2023 Duration: 14minPigion Dysgwyr – DionMae Dion Paden, sy’n dod o Gerrigydrudion yn Sir Conwy yn wreiddiol, wedi symud i fyw i Darwin yng ngogledd Awstralia, ac yn ddiweddar cafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio gyda Dion. Gofynnodd Shan iddo fe’n gynta pam symudodd e i Awstralia?Yn ddiweddar RecentlyPigion Dysgwyr - MeinirDion o Darwin yn siarad gyda Shan Cothi yn fanna. Ar raglen Beti a’i Phobol ddydd Sul y gwestai oedd Meinir Thomas o Ynys Môn. Mae Meinir yn chwarae hoci i dîm dros 55 Menywod Cymru. Mae hi’n hoffi nofio gwyllt hefyd a dyma Meinir i ddweud beth sydd mor arbennig am nofio ym mhob tywydd a hynny drwy’r flwyddyn.Menywod MerchedArnofio To floatTonnau WavesPlentyndod ChildhoodGolwg gwirion arna i I looked ridiculous Be ar y ddaear…? What on earth…?Gwefreiddiol ThrillingMorlo SealPigion Dysgwyr – Dros Ginio 6.2Meinir yn poeni dim am beth mae pobl yn ei feddwl amdani’n nofio’n wyllt, chwarae teg iddi hi. Gwestai Dewi Llwyd yn y slot 2 cyn 2 ar Dros Ginio bnawn Llun oedd y cyn
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 7fed o Chwefror 2023
07/02/2023 Duration: 15minPigion Dysgwyr – Shan Jones Dych chi wedi gwylio’r rhaglen, Priodas Pum Mil ar S4C o gwbl? Mae tîm y rhaglen yn gwneud holl drefniadau priodas ac yn ffilmio’r cyfan. Ar Chwefror 19 bydd priodas Shan Jones o bentref Llanuwchllyn a’i gŵr Alun i’w gweld ar y rhaglen. Priododd y ddau haf y llynedd, a chafodd Shan Cothi ar Bore Cothi gyfle i holi Shan Jones ar ddydd Santes Dwynwen, gan ddechrau drwy ofyn, sut brofiad oedd e i gael y camerâu yn eu dilyn nhw ar y diwrnod mawr?Ffeind CaredigCymwynasgar ObligingAm oes For lifeYstyried To considerGoro (gorfod) fi wneud dim byd Doedd rhaid i mi wneud dimAnhygoel IncredibleRhannu’r baich Sharing the loadPwysau PressureClod PraisePigion Dysgwyr – Gareth John BaleShan Jones oedd honna’n sôn am y profiad o gael tîm Priodas Pum Mil i drefnu ei phriodas. Nesa, dyn ni’n mynd i gael blas ar sgwrs gafodd Bethan Rhys Roberts gyda Gareth Bale ar ei rhaglen Bore Sul. Nage nid y Gareth Bale yna , ond yr actor Gareth John Bale. Mae e’n actor sydd wedi
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 31ain 2023
31/01/2023 Duration: 15minPigion Dysgwyr – Angharad a Elizabeth Cafodd Angharad Alter ac Elizabeth James, sy’n gweithio i Gymwysterau Cymru, eu magu yn Whitby yn Swydd Efrog, cyn i Angharad a’i theulu symud i Reading. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda’r ddwy am eu profiadau o ddysgu Cymraeg. Dyma beth oedd gan Angharad i’w ddweud yn gynta.Cymwysterau Cymru Qualifications WalesAnnog ein gilydd Encouraging each otherY cyfnod clo The lockdownRhyfeddol AstonishingCyd-destun ContextCydbwysedd BalanceCyfleoedd OpportunitiesAwyrgylch AtmospherePigion y Dysgwyr – Beti 29.1Syniad diddorol on’d ife – creu ystafelloedd siarad Cymraeg er mwyn dod i arfer â sgwrsio yn yr iaith. Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl bnawn Sul oedd Rhian Boyle, awdur y ddrama radio Lush. Dyma Rhian yn esbonio wrth Beti ychydig am ei dyddiau ysgol ym Mhorthaethwy, Ynys Môn.Mae gen i gywilydd I’m ashamedAmddiffyn To defendYsgaru To divorceTGAU GCSEHunangofiant AutobiographyTrais ViolenceFatha FelCyboli Messin
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 24ain 2023
24/01/2023 Duration: 15minPigion Dysgwyr – Chris SummersMae’r cogydd o Gaernarfon Chris Summers newydd symud i Lundain i weithio fel prif chef tafarn hynafol y Cheshire Cheese ar Fleet Street yng nghanol dinas Llundain. Cafodd Trystan Ellis Morris gyfle i holi Chris am ei yrfa fel chef, gan ddechrau gyda’r adeg pan wnaeth e gyfarfod â Gordon Ramsay.Hynafol AncientLasai fo Basai fe wedi galluPoblogaidd PopularCoelio CreduParch RespectCyflwyno To introduceSbio EdrychSmalio EsgusPadell ffrio FfrimpanPigion Dysgwyr – Nerys Howell 16.1Chris Summers yn amlwg â pharch mawr tuag at Gordon Ramsay, a r’yn ni’n aros ym myd y cogyddion gyda’r clip nesa. Buodd y gogyddes Nerys Howell yn sgwrsio gyda Shan Cothi am y gwahanol ffyrdd r’yn ni’n defnyddio sbeisys...Ryseitiau RecipesSy’n cynnwys Which includeSawrus SavouryTanllyd FieryPobi To bakeYmchwil Research Penodol SpecificBuddion iechyd Health benefitsMeddyginiaethau MedicinesAfiechydon IllnessesPigion Dysgwyr – Munud I Fe
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 17eg 2023
17/01/2023 Duration: 11minPigion Dysgwyr – Kath Morgan 8.1Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl wythnos dwetha oedd cyn gapten pêl-droed merched Cymru, Kath Morgan. Mae angen bod yn berson hyderus iawn i gymryd y swydd honno on’d oes? Wel nid felly yn ôl Kath...Cyn gapten Former captainYn falch ProudDifaru To regretBraint An honourYmfalchïo To be proud of oneselfCyfrifoldeb ResponsibilityGormod o bwysau Too much pressureMynnu To insistCyfarwyddiadau InstructionsPigion Dysgwyr 10.1 – Gareth Bale O cyn-gapten tîm merched Cymru i gyn-gapten tîm dynion Cymru - Gareth Bale, a daeth y newyddion yr wythnos diwetha bod y pêl-droediwr enwog yn ymddeol. Dyma Nic Parri yn edrych yn ôl ar ei yrfa ar Dros Frecwast fore Mercher.Cyfadde(f) To admit Di-ri(f) InnumerableAnnisgwyl UnexpectedYstyried To considerSyllu To stareLlusgo To dragPencampwriaeth ChampionshipYsbrydoliaeth InspirationAruthrol HugeBreuddwydiol, euraidd Dreamy, goldenYng nghysgod In the shadow Pigion Dysgwyr
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 10fed 2023
10/01/2023 Duration: 14minAled Hughes – Warner Brothers 5.1 Sefydlwyd y cwmni ffilm Warner Brothers ganrif yn ôl i eleni. Bore Iau cafodd Aled Hughes gwmni Dion Hughes yr adolygydd ffilm i sôn ychydig am y cwmni enwog hwnnw. Adolygydd ReviewerSefydlwyd Was establishedCanrif A centuryCreu To createAnferth HugeBrodyr BrothersY dechreuad The beginningDatblygu To developParhau ContinuingBodoli To exist Beti a’I Phobl – Rhian Morgan Ychydig o hanes cwmni Warner Brothers yn fanna ar raglen Aled Hughes. Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl yr wythnos diwethaf oedd yr actores a’r gomediwraig Rhian Morgan. Dyma hi’n sôn am yr adeg pan fuodd hi’n perfformio yng Nghadeirlan St Paul’s yn Llundain Y Gadeirlan The Cathedral Portreadu To portrayDywediadau SayingsLlwyfan StageGanwyd Was bornBri PopularCredwch neu beidio Believe it or notSyfrdan AstoundedDychmygol ImaginaryPigion Dysgwyr – Nofio Oer 3.1 A Rhian Morgan wed
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 6ed 2023
05/01/2023 Duration: 14minBore Cothi – Iau – 29/12/22 Heledd Cynwal oedd yn cyflwyno Bore Cothi yn lle Shan Cothi wythnos diwetha a buodd hi’n gofyn i sawl person sut flwyddyn oedd 2022 wedi bod iddyn nhw. Roedd yr awdures Caryl Lewis wedi cael blwyddyn cynhyrchiol iawn, fel cawn ni glywed yn y clip nesa ‘ma... Cynhyrchiol ProductiveYmhelaethwch! Say more!Llwybr PathAnarferol UnusualDatblygu To developMynd ati To go about itYn fy nhwpdra In my stupidityTueddu Tend toNaill ai...neu Either...orCynrychioli To representDros Ginio – Iau 29/12/22 Yr awdures Caryl Lewis yn sôn am ei blwyddyn brysur ac anarferol. Rhaglen arall fuodd yn edrych yn ôl ar 2022 oedd Dros Ginio a chlywon ni rai o’r sgyrsiau diddorol gafwyd yn ystod y flwyddyn. Dyma flas ar sgwrs rhwng Alun Thomas a’r Dr Elain Price sydd yn ddarlithydd mewn Astudiaethau Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe. Gofynnodd Alun iddi hi beth oedd ei hoff ffilm... Darlithydd LecturerAstudiaethau Cyfryngau Media studies S
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 30ain 2022
30/12/2022 Duration: 13minTroi’r Tir – Cofio’r Nadolig 18.12 Buodd Troi’r Tir yn hel atgofion am Nadoligau’r gorffennol. Un o’r rheini siaradodd ar y rhaglen oedd Bessie Edwards o Gribyn ger Llanbedr-Pont-Steffan, a dyma hi’n cofio dydd Nadolig oedd yn wahanol iawn i Nadoligau’r dyddiau hyn... Hel atgofion Recollecting Tylwyth TeuluArferiad A customCelyn HollyAddurno To decorateDim byd neilltuol Nothing particularly Melysion SweetsCyngerdd cystadleuol A competitive concertAdloniant EntertainmentBore Cothi – Alwyn Sion 20.12 Blas ar Nadoligau’r gorffennol yn fanna gydag atgofion Bessie Edwards. Yn ystod wythnos y Nadolig ar Bore Cothi clywon ni Shan Cothi yn holi gwahanol bobl beth yw ystyr y Nadolig iddyn nhw. Dyma i chi Alwyn Sion yn sôn am sut oedd cymuned ffermio ardal Meirionnydd yn paratoi at yr Ŵyl….. Gwyddau GeeseNefoedd HeavenPlentyndod ChildhoodPrysurdeb BusinessPluo To pluckCynnau tân To light a fireLlygad barcud A keen eyeRhwygo
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 20fed 2022
20/12/2022 Duration: 13minRadio Ysbyty – Codi Calon Claf 18.12 Nos Sul buodd Huw Stephens yn rhoi hanes dyddiau cynnar Radio Ysbyty Glangwli Caerfyrddin, gafodd ei sefydlu bum deg mlynedd yn ôl. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Huw gyda sylfaenydd yr orsaf, y darlledwr Sulwyn Thomas Cafodd ei sefydlu Was establishedSylfaenydd FounderDarlledwr BroadcasterFy annwyl wraig My dear wifeCadeirio ChairingFfodus LwcusCymysgu’r sain Mixing the soundRo’n i’n methu’n deg I couldn’t at allAelod selog A faithful memberAmbell I Gan – Bronwen Lewis 11.12 Ychydig o hanes sefydlu Radio Ysbyty Glangwli yn fanna gan Sulwyn Thomas. Cafodd Gwennan Gibbard gwmni’r gantores Bronwen Lewis ar y rhaglen Ambell i Gân. Gofynnodd Gwenan iddi hi yn gynta pwy sydd wedi dylanwadu arni hiDylanwadu To influenceTyfu lan Tyfu fynyTad-cu TaidEmynau HymnsTraddodiadol TraditionalYn grac Yn flinCyfweliad InterviewSwnllyd NoisySwynol BeautifullyFfili Methu Bore Cothi -
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 13eg 2022
13/12/2022 Duration: 12minBore Cothi – Rhys Taylor 5.12 Beth yw eich hoff garol Nadolig? Falle cewch gyfle i glywed y band jazz, Rhys Taylor a’i Fand, yn ei pherfformio ar Carioci Carolau Cothi cyn y Nadolig. Dyma Rhys Taylor ei hun ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha yn sôn am ei hoff garolau e.... Traddodiadol Traditional Morio canu Singing their hearts outPoblogaidd PopularAmrywiaeth VarietySioeau cerdd Musicals(Carolau) plygain Traditional Welsh carols Trefniant ArrangementCydio To graspCroen gwŷdd GoosebumpsDisglair, pur, nefolaidd Brilliant, pure, heavenlyCaryl – Llanllwni 5.12 Carioci Carolau Cothi, rhywbeth i edrych ymlaen ato on’d ife? Ac mae plant bach ardal Llanllwni ger Llanbedr Pont Steffan yn edrych ymlaen bob bore i weld pa ddrygioni mae’r hen gorachod ar y silff wedi bod yn ei wneud yn ystod y nos, fel clywon ni gan Nerys Thomas ar raglen Caryl... Drygioni NaughtinessCorachod ElvesWedi gwirioni’n lân Infatuated withPeth diweddar A recent thingBeti A'i Phobol – Sh
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 6ed 2022
06/12/2022 Duration: 13minBore Cothi - Huw Williams 29.11 Ddechrau’r wythnos buodd Sian Cothi yn darlledu o’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Dydd Mawrth cafodd gyfle i siarad ag un o filfeddygon yr Ŵyl sef Huw Williams o Dywyn, Meirionydd. Beth yn union yw gwaith y milfeddygon yn ystod y Ffair Aeaf? Dyma Huw yn esbonio... Ffair Aeaf Winter FairMilfeddygon VetsDarlledu BroadcastingHamddenol LeisurelyArchwilio To inspectAnhygoel IncredibleY cylch The ringBeirniad JudgeRhesymu’n gyhoeddus Outlining the reasons publiclyArddangoswyr ExhibitionersBeti a’I Phobl – Sylvia Davies 4.12 Blas ar waith milfeddygon y Ffair Aeaf yn fanna ar Bore Cothi.Sylvia Davies oedd gwestai Beti George bnawn Sul . Dyma i chi ran o’r sgwrs ble mae hi’n esbonio pam wnaeth hi benderfynu mynd i’r brifysgol i astudio anthropoleg ar ôl iddi hi ddechhrau gweithio mewn banc... Doedd fy mryd i ddim I wasn’t inclined Trywydd traddodiadol A traditional path Aeth ar gyfeiliorn Went astrayEnnill fy
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 29ain 2022
29/11/2022 Duration: 13minBore Cothi – Iestyn Jones Mae Iestyn Jones o Gapel Hendre yn Sir Gaerfyrddin yn gerddor llwyddiannus sy’n gweithio yn y West End, ac ar hyn o bryd mae e’n aelod o gerddorfa sioe ‘Back to The Future’. Buodd Iestyn yn sôn wrth Shan Cothi am ei yrfa…………. Cerddor llwyddiannus A successful musicianCerddorfa OrchestraSioe gerdd Musical theatreDwlu ar Wrth ei fodd efoLlwyfan StageAnghyffredin UnusualProfiadau ExperiencesTrwy rinwedd By virtue of Beti a’i Phobl – John Owain Jones 27.11 Iestyn Jones oedd hwnna’n sôn am rai o’i brofiadau yn y West End ar Bore Cothi. Pnawn Sul ar Beti a’i Phobl y Parchedig John Owain Jones oedd gwestai Beti. Bydd e’n ymddeol fel gweinidog ar Ynys Bute yn yr Alban ym mis Chwefror 2023 ar ôl treulio 12 mlynedd fel gweinidog yno. Dyma fe’n sôn am sut dechreuodd ei gysylltiad â’r ynys...Parchedig ReverendGweinidog Minister Yn y fyddin In the armyHel pres Casglu arianLlongau ShipsYmerodraeth EmpireFfrindi
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 22ain 2022
22/11/2022 Duration: 16minBore Cothi - Gruffydd Rees 16.11Ydy gwenyn yn cysgu dros y gaeaf? Nac ydyn, ddim yn ôl y gwenynwr Gruffydd Rees o’r Dryswyn yn Sir Gaerfyrddin. Dyma Gruffydd yn dweud mwy wrth Shan Cothi….. Gwenyn BeesCwch HivePara To lastPeillio To pollinateHanfodol EssentialDiwydiant IndustryCnwd CropTrystan ac Emma – Gari’r GwiningenY gwenyn yn brysur yn bwyta mêl drwy’r gaeaf – braf on’d ife? Nesa dyma i chi hanes Gari, anifail anwes Emma o Lanbedrog ym Mhen Llŷn, sydd wrth ei fodd yn mynd am dro i’r traeth gyda thri o gŵn Emma. Dim byd yn rhyfedd am hynny nag oes? Wel oes, gan mai cwningen ydy Gari. Dyma Emma’n sgwrsio gyda Trystan ac yr Emma arall…Cwningen RabbitAballu And so onDychmygu To imagineYmateb ResponseAled Hughes – Nyrsus Phillipines 14.11Felly peidiwch â chael gormod o sioc tasech chi’n gweld cwningen yn mynd am dro ar draethau Pen Llŷn! Fore Llun cafodd Aled Hughes gyfle i sgwrsio gyda Noel Davies mab Lottie, nyrs o Ynysoedd Philippines yn wreiddiol, d
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 15fed 2022
15/11/2022 Duration: 18minS'mae... Ry'ch chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse ydw i, ac i ddechrau'r wythnos yma... Aled Hughes - Dafydd Iwan 7.11 Roedd Dafydd Iwan yn westai ar raglen Aled Hughes fore Llun i sôn am Yma o Hyd, y gân sydd wedi ei dewis fel anthem tîm Pêl-droed Cymru ar gyfer Cwpan y Byd. Recordiwyd Yma o Hyd gynta bron i bedwar deg mlynedd yn ôl, ond mae hi wedi cael bywyd newydd yn ddiweddar, gyda recordiad newydd sydd wedi cael sylw mawr y tu hwnt i Gymru. Tu hwnt BeyondWedi hen arfer Well used toBodoli ers degawdau Existed for decadesRhyfedda StrangestPwysleisio’r angen Stresses the importanceAil-greu To recreateErs tro For a long timeYsbrydoli To inspire Yr alwad The callLlorio To floorBore Cothi – Roy Noble 7.11 ...a buodd chwarter miliwn o blant ysgol Cymru yn canu Yma o Hyd fel rhan o Jiwbili yr Urdd, gwych on’d ife? Ddydd Llun hefyd cafodd Shan Co
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd yr 8fed 2022
08/11/2022 Duration: 15minBETI A’I PHOBOL - MIRAIN IWERYDDY cyflwynydd Mirain Iwerydd oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth ydy Mirain ac mae hi’n cyflwyno Hansh a Stwnsh Sadwrn ar S4C, a’r Sioe Frecwast Radio Cymru 2 fore Sul. Mae hi hefyd yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth newydd bob nos Fercher ar Radio Cymru. Cefndir Jamaicaidd ac Indiaidd sydd gan fam Mirain a gofynnodd Beti iddi oedd hi wedi profi hiliaeth o gwbl o’r herwydd…Hiliaeth Racism O’r herwydd As a consequence Dathlu diwylliant Celebrating the culture Synnu To be surprised Ffodus Lwcus (G)wynebu To face Cymharol Relatively Cyfryngau cymdeithasol Social media Becso Poeni Bodoli To existSHELLEY A RHYDIAN Mirain Iwerydd oedd honna’n sgwrsio gyda Beti George. Yr actor, canwr a sylwebydd Rhys ap William oedd gwestai Shelley a Rhydian brynhawn Sadwrn. Rhys oedd yn sylwebu yn Stadiwm y Principality yn ystod y gêm rygbi rhwng Cymru a’r Crysau Duon ddydd Sadwrn diwetha ond beth tybed yw
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 1af o Dachwedd 2022
01/11/2022 Duration: 17minBORE COTHI Buodd Mari Grug yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes ddechrau’r wythnos diwetha, a chafodd hi sgwrs gyda Eirian Muse o Garmel ger Caernarfon am greu basgedi. Dechreuodd diddordeb Eirian mewn basgedi pan gafodd daleb i fynd i weithdy creu basgedi fel anrheg penblwydd tua phum neu chwe blynedd yn ôl. Dyma Eirian yn dweud yr hanes… Taleb - Voucher Ar hap - Accidentally Helyg - Willow Sir Amwythig - Shropshire Cymhwyster - Qualification Gwledig - Rural Hwb - A boost Gwlad yr Haf - Somerset Cynnyrch adnewyddadwy - Renewable produce Hyblyg - Pliable Trwch - ThicknessBETI A’I PHOBL Eurig Druce ydy Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni ceir Citroën yn y Deyrnas Unedig a fe oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Mae’n dod o bentref Bethel ger Caernarfon yn wreiddiol a phwy gwell nag Eurig i drafod ceir gyda Beti. Dyma i chi flas ar y sgwrs … Rheolwr Gyfarwyddwr - Managing Director Y Deyrnas Unedig - The UK Anferth - Huge Cynhyrchu’n unigol - Individually produced Diwydiant - Industry Sylfaen - Foundation Trydanol -
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Hydref 2002
25/10/2022 Duration: 15minBETI A’I PHOBOL Joe Healy, enillydd Dysgwr y Flwyddyn oedd gwestai Beti George yn ystod Wythnos y Dathlu. Mae Joe’n dod o Wimbledon yn ne Llundain yn wreiddiol ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers deg mlynedd. Daeth i Gaerdydd i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros yno. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac yn y clip yma mae’n sôn am sut wnaeth teulu Mared, ei cyn- gariad, ei helpu i ddysgu’r iaith… Treulio amser - To spend time Mynd mas - Mynd allan Profiad - Experience Mam-gu - Nain Cymdeithasol - Sociable Gorfodi - To force Cefnogol - Supportive Becso - Poeni Trochi - To immerseALED HUGHES Dim ond ers mis Ebrill eleni mae Katie Owen o Ferthyr yn dysgu’r iaith ar ôl iddi gymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith gyda’r DJ Huw Stephens yn fentor iddi hi. Dyma hi’n sgwrsio gydag Aled Hughes… Gwahanol - Different Tad-cu - TaidALED HUGHES Cafodd Laura Jones o Gaerdydd ychydig o wersi Cymraeg yn yr ysgol, ond penderfynodd ddysgu’r Gymraeg fel oedolyn er mwyn cyfieithu rhannau o’r Quran. Dyma flas ar y