Pigion: Highlights For Welsh Learners

  • Author: Vários
  • Narrator: Vários
  • Publisher: Podcast
  • Duration: 99:23:57
  • More information

Informações:

Synopsis

Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.

Episodes

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 22ain 2023

    22/08/2023 Duration: 14min

    Pigion Dysgwyr – HiraethogMae yna ymgyrch ymlaen ar hyn o bryd gan Twristiaeth Gogledd Cymru i ddenu ymwelwyr i ardal Hiraethog yng ngogledd Cymru. Sara Gibson oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes wythnos diwetha wrth i Aled gymryd gwyliau bach ar ôl yr Eisteddfod. Dyma Eifion Jones o Lansannan, yn siarad â Sara am yr ardal arbennig hon Ymgyrch CampaignDenu To attractYwen YewCynaliadwy SustainableMurluniau MuralsCerflun StatueTaflunydd ProjectorPererinion PilgrimsTreffynnon HolywellPigion Dysgwyr – BrechuDisgrifiad o ardal Hiraethog yn fanna gan Eifion Jones. Gyda’r sôn bod straen newydd o Covid wedi ymddangos cafodd Beti George sgwrs ar Beti a’i Phobol gyda meddyg teulu ddaeth i amlygrwydd ar ddechrau’r pandemig. Chwaraeodd Dr Eilir Hughes ran bwysig wrth geisio rheoli Covid-19 yn ei gymuned. Cafodd ei enwebu am ei waith ar gyfer un o wobrau Dewi Sant a dyma Beti yn ei holi …Amlygrwydd ProminanceEnwebu To nominateSefydlu To establishBrechu To vaccinatePell

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 15fed 2023

    15/08/2023 Duration: 13min

    S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Trystan ab Ifan dw i ac i ddechrau'r wythnos yma … Pigion Dysgwyr – Dechrau‘r SteddfodBuodd Radio Cymru‘n darlledu o Faes yr Eisteddfod ym Moduan drwy’r wythnos diwetha gan ddechrau am ganol dydd ar y dydd Sadwrn cyntaf. Dyma sut dechreuodd y darlledu……Darlledu To broadcastCynnau tan To light a fireCynnal To maintainBlodeuo To flowerEisteddfodwr o fri A renowned Eisteddfod personHawlio To claimDeuawd DuetCraith A scarLlwyfan StageNoddi To sponsorPigion Dysgwyr – Martin Croydon…ac wrth gwrs bydd blas ar sawl darllediad o’r Eisteddfod yn y podlediad wythnos yma, gan ddechrau gyda Martyn Croydon enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddeg mlynedd yn ôl. Daw Martin o Kidderminster yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae o’n byw ym Mhen Llŷn.Gwobr PrizeEnwebu To nominateRowndiau terfynol Final roundsGwrthod To refuseCyfweliad InterviewBei

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 8fed 2023

    08/08/2023 Duration: 13min

    Pigion Dysgwyr – Lloyd LewisGwestai arbennig Bore Sul yn ddiweddar oedd y rapiwr Lloyd Lewis. Mae e wedi perfformio ar y cae rygbi, ar deledu, ac mae e’n falch ei fod e'n Gymro Cymraeg aml-hil. Dyma Lloyd yn sôn wrth Betsan Powys am ei ddyddiau ysgol...Yn ddiweddar RecentlyAml-hil Mixed-raceAmrywiaeth VarietyYstyried To considerPigion Dysgwyr - Nofio yn y SeineY rapiwr o Cwmbrân , Lloyd Lewis oedd hwnna’n sgwrsio gyda Betsan Powys. Cyn bo hir mae'n bosib bydd pobl Paris yn gallu nofio yn yr afon Seine. Mae can mlynedd union wedi mynd heibio ers i nofio yn yr afon gael ei wahardd am fod gwastraff o bob math yn peryglu iechyd y nofwyr. Dyma Ceri Rhys Davies sy'n byw ym Mharis yn sgwrsio gyda Dewi Llwyd ar Dros Ginio wythnos diwetha…...Gwahardd To ban Deugain mlynedd 40 yearsCydnabyddiaeth AcknowledgementBrwnt BudrYn raddol GraduallyMynd i’r afael To get to grips Breuddwyd gwrach Pipe dream Pigion Dysgwyr – John Eifion JonesAc ers y sgwrs honno daeth y newyddion bod nofio yn y Seine we

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 1af 2023

    01/08/2023 Duration: 18min

    SHELLEY & RHYDIANYr awdures Manon Steffan Ros oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Mae Manon wedi ennill Gwobr Medal Yoto Carnegie am ei llyfr “The Blue Book of Nebo” sy’n gyfieithiad o’i llyfr “Llyfr Glas Nebo” enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018. Sut deimlad oedd ennill gwobr Carnegie tybed…Y Fedal Ryddiaith The prose medalWedi gwirioni Over the moonBraint PrivilegeEnwebu To nominateRhestr fer Short listCoelio CreduTrosi To translateYn reddfol InstinctivelyAddasu To adaptLlenyddiaeth LiteratureHunaniaeth IdentityCLONCManon Steffan Ros oedd honna’n sôn am lwyddiant anferthol “Llyfr Glas Nebo” sydd wedi ei gyfieithu i nifer fawr o ieithoedd. Roedd rhaglen gomedi newydd ar Radio Cymru dros y penwythnos, wedi cael ei hysgrifennu gan Tudur Owen, Sian Harries a Gareth Gwynn. Mae Gareth yn dysgu Cymraeg, a dyma i chi Radio Clonc...Sy berchen Who ownsYn sgil As a result ofDisgyrchiant GravityWedi cythruddo Has angeredAta

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Gorffennaf 25ain 2023

    25/07/2023 Duration: 11min

    Pigion Dysgwyr – Deborah MorganteMae Deborah Morgante yn dod o Rufain yn yr Eidal ac wedi dysgu Cymraeg. Ar Dros Ginio bnawn Mawrth diwetha soniodd Deborah am y gwres tanbaid sydd wedi taro’r Eidal a gwledydd eraill Môr y Canoldir. Dyma Jennifer Jones yn gofyn i Deborah yn gyntaf pa mor brysur oedd Rhufain…lle sydd fel arfer yn llawn twristiaid…..Gwres tanbaid Intense heatMôr y Canoldir Mediterranean SeaRhufain RomeMewn gwirionedd In realityRhybuddio To warnOriau mân y bore The early hoursMas AllanDioddef To sufferPigion Dysgwyr – Aled HughesMi alla I dystio I’r gwres achos ro’n I ar Ynys Sicilly yn ystod yr wythnos. Mae Grayer Palissier yn siaradwraig Cymraeg newydd ac yn byw yn y Wyddgrug. Mae hi’n dod o Ynys Manaw yn wreiddiol a phenderfynodd hi ddysgu Cymraeg pan oedd ei phlant yn fach. Dyma hi’n esbonio wrth Aled Hughes yn ddiweddar pam bod gan y band Daniel Lloyd a Mr Pinc ran fawr i chwarae yn ei phenderfyniad i barhau i ddysgu’r iaith……Ynys Manaw Isle of ManParhau To

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 18fed o Orffennaf 2023

    18/07/2023 Duration: 12min

    Pigion Dysgwyr – Bore SulMae’r cogydd Tomos Parry o Ynys Môn ar fin agor ei fwyty newydd yn Soho Llundain, ac ar Bore Sul yn ddiweddar cafodd Bethan Rhys Roberts sgwrs gyda fe am ei fenter newydd ………Cogydd ChefAr fin About toDylanwadu To influence Cynhwysion IngredientsGwair GrassGwymon Seaweed Crancod CrabsCynnyrch Produce Pigion Dysgwyr – Trystan ac EmmaA phob lwc i Tomos gyda’i fwyty newydd on’d ife? Llwyfan y Steddfod ydy enw sengl newydd y canwr o Fethel ger Caernarfon, Tomos Gibson. Mae e ar hyn o bryd yn fyfyriwr yng Ngholeg Menai, a buodd Tomos yn sôn wrth Trystan ac Emma am y broses o gynhyrchu’r senglCynhyrchu To produceDdaru o gymryd CymeroddCerddorion MusiciansCynnwys IncludingUnigol IndividualTrefnu To arrangeProfiad ExperienceCyfansoddi To composeBraint A privilegePigion Dysgwyr – Dei TomosWel dyna Tomos arall i ni ddymuno pob lwc iddo heddiw – Tomos Gibson o Fethel gyda’i sengl newydd Llwyfan y Steddfod Yn ddiweddar darlledwyd rh

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Orffennaf 2023

    11/07/2023 Duration: 12min

    Pigion Dysgwyr – Cerys HafanaCerys Hafana, y cerddor ifanc o Fachynlleth oedd gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol wythnos diwetha. Mae hi’n chwarae’r delyn ers pan oedd hi’n 7 mlwydd oed. Daeth hi i Fachynlleth i fyw yn blentyn bach o ddinas Manceinion. Dyma hi’n sôn am sefyllfa byd cerddoriaeth werin yng Nghymru, ymhlith pobl ifanc.Cerddor MusicianTelyn HarpYmhlith AmongstOfferyn InstrumentCerddoriaeth (g)werin Folk musicMae’n ddilys It’s validMynegi eich hunain To express yourselvesLlawysgrifau ManuscriptsPlant yn eu harddegau TeenagersYsbrydoliaeth InspirationPigion Dysgwyr – CernywegY cerddor Cerys Hafana oedd honna’n sgwrsio gyda Beti George. Enillodd Matt Spry wobr Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018 ac aeth ymlaen i fod yn diwtor Cymraeg gyda Phrifysgol Caerdydd. Mae’n dod o Aberplym neu Plymouth yn wreiddiol, ac nawr mae e wedi bod yn dysgu Cernyweg ers tua 8 mis. Wythnos diwetha ar raglen Aled Hughes cafodd Matt air gydag Aled i esbonio pam ei fod we

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 4ydd o Orffennaf 2023

    04/07/2023 Duration: 11min

    Pigion Dysgwyr – Carie RimesPerchennog Llaethdy Gwyn ym Methesda yng Ngwynedd yw Carie Rimes. Sgwrsiodd Carie gyda Shan Cothi wythnos diwetha, am wobr mae’r llaethdy newydd ei hennill ennill, sef y caws Cymreig gorau yng ngwobrau artisan Gwyl Gaws Melton Mowbray, a hynny am y trydydd gwaith yn olynol.Perchennog llaethdy Dairy ownerGwobr AwardYn olynol In successionLlefrith dafad Sheep’s milkUnigryw UniqueTueddu i Tends toLlwyddiant SuccessPigion Dysgwyr – GlastonburyA llongyfarchiadau mawr i Laethdy Gwyn am ennill y wobr fawr on’d ife? Ar Dros Ginio yn ddiweddar cafodd Cennydd Davies air gyda’r hanesydd pop Phil Davies. Buodd Phil yn edrych yn ôl dros Ŵyl Glastonbury gafodd ei chynnal yng Ngwlad yr Haf yn ddiweddar…….Gwlad yr Haf SomersetDarnau PiecesDigon rhwydd Easy enoughRo’n i’n synnu braidd I was rather surprisedAmau To suspectDenu To attractFel mae’r sôn ApparentlyEi bai hi oedd o It was her faultPigion Dysgwyr – Dr Owain Rhys Hughes Ddi

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 27ain o Fehefin 2023

    27/06/2023 Duration: 10min

    Pigion Dysgwyr – Sulwyn ThomasGwestai gwadd rhaglen Bore Cothi ddydd Llun wythnos diwetha oedd y darlledwr Sulwyn Thomas. Am flynyddoedd lawer roedd gan Sulwyn raglen yn y bore ar Radio Cymru. Roedd e’n dathlu ei ben-blwydd yn 80 yn ddiweddar a gofynnodd Shan Cothi iddo fe beth yw cyfrinach cadw’n ifanc ei ysbrydDarlledwr BroadcasterCyfrinach SecretYsbryd SpiritFfodus LwcusCam bihafio MisbehavingNewyddiadurwr JournalistBant I ffwrddDyfalu To guessPigion Dysgwyr – Ann EllisSulwyn Thomas yn fanna’n swnio’n llawer ifancach nag wythdeg oed, a gobeithio iddo fe fwynhau’r dathlu yn Nhŷ Ddewi on’d ife? Ann Ellis yw un o benaethiaid cwmni Mauve Group sydd ar fin cael ei bresenoldeb cynta yng Nghymru. Mae’r cwmni yn helpu busnesau sefydlu mewn gwledydd newydd ar draws y byd. Yn ddiweddar ar raglen Bore Sul sgwrsiodd Ann gyda Bethan Rhys Roberts a dyma hi‘n sôn am sut dechreuodd y cwmni mewn cwpwrdd yn yr Eidal….Sefydlu To establishAr fin cael About to havePenaethiaid HeadsHard

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 20fed o Fehefin 2023

    20/06/2023 Duration: 11min

    Pigion Dysgwyr – Dorian MorganBore Llun wythnos diwetha ar ei rhaglen, cafodd Shan Cothi gwmni Dorian Morgan. Mae Dorian newydd ddod yn ôl o daith 60 diwrnod ar draws Ewrop, dyma fe i ddweud mwy am y daith...Bant I ffwrddCledrau Rails (of railway)Pasg EasterGalluogi To enable Yn ddi-dor UninterruptedPigion Dysgwyr – Trystan ac EmmaWel cafodd Dorian fargen yn fanna on’d do fe? Dw i ‘n siŵr ei fod wedi gweld nifer o wledydd Ewrop yn y 60 diwrnod yna! Yn ddiweddar ar raglen Trystan ac Emma clywon ni raglen arbennig i ddathlu’ Campio a Charafanio’. Mae Geth Tomos yn garafaniwr brwd ac esboniodd e wrth Trystan ac Emma pam ei fod mor hoff o’i garafánYn ddiweddar RecentlyBrwd EnthusiasticCerddor MusicianHafan o heddwch A peaceful havenAdlen AwningTroedfedd A foot (measurement)Pigion Dysgwyr – CarnoMae Geth Tomos yn amlwg wrth ei fodd yn aros yn ei garafán. Ym mhentre Carno ym Mhowys mae tafarnwr wedi bod yn tynnu peintiau o gwrw ers 60 blynedd. John Williams yw ei enw ac enw’r

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 13eg o Fehefin 2023

    13/06/2023 Duration: 12min

    Pigion Dysgwyr - Aled Hughes Mae Siop Tir a Môr yn Llanrwst wedi ennill y wobr am siop Pysgod a Sglodion orau Gogledd Cymru gan ddarllenwyr y Daily Post. Aeth Aled Hughes draw i siarad â pherchennog y siop Wyn Williams yn ddiweddar..Ddaru ni Wnaethon niEstyniad ExtentionYn werth ei weld Worth seeingLlymaid A swigCoelio CreduGwaith haearn Iron worksGwyrth MiracleCaniatâd PermissionSefyll yn llonydd Standing still(H)wyrach EfallaiPigion y Dysgwyr – Myfanwy AlexanderLlongyfarchiadau i Tir a Môr on’d ife? Mae’r bwyd yn swnio’n flasus iawn. Dych chi wedi bod yn Nhrefaldwyn o gwbl? Mae hi’n dref hanesyddol ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac yn dref oedd yn boglogaidd iawn gyda Julie Christie a Salman Rushdie. Dyma Myfanwy Alexander yn dweud mwy wrth Rhys Mwyn... Y ffin The borderHamddenol LeisurelyLing di long At your own paceAwyrgylch AtmosphereBodoli To existPensaerniaeth ArchitectureFfynnu To thriveLlonyddwch Tranquillity Cuddio To hidePigion Dysgwyr –

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 6ed o Fehefin 2023

    06/06/2023 Duration: 12min

    Pigion Cofio Amelia Earhart 28.05Gan fod Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri wythnos diwetha, y dref honno a Sir Gar oedd thema’r rhaglen archif Cofio gyda John Hardy. Buodd e’n chwilio am hanesion o’r sir a dyma i chi glip bach o raglen “Ddoe yn ôl” o 1983 a Gerald Jones, cyn bennaeth Brigâd Dan Sir Gaerfyrddin yn llygad dyst i Amelia Earhart yn glanio ym Mhorth Tywyn o’r America yn 1928. Llygad dyst Eye witnessArbenigo To specialiseLodes MerchEhedeg HedfanPorth Tywyn Burry PortO bellter From a distancePigion Bore Sul Nicky John 28.05 Hanesion diddorol am Amelia Earhart yn fanna gan Gerald Jones . Gwestai arbennig Iwan Griffiths ar raglen Bore Sul oedd Nicky John, y gohebydd chwaraeon. Mae hi wedi gweithio ar raglen Sgorio ar S4C ers tua 17 o flynyddoedd, a dyma hi’n sôn am uchafbwyntiau ei gyrfa. Gohebydd CorrespondentUchafbwyntiau HighlightsDychryn To frightenGwibio heibio Flying past (lit: darting past)Rhyngwladol InternationalBraint PrivilegeAr lawr

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 31ain o Fai 2023

    31/05/2023 Duration: 12min

    Rhaglen Caryl Parry Jones Ar ei rhaglen wythnos diwethaf, mi gafodd Caryl sgwrs efo Ieuan Mathews o Gwmni Theatr Pontypridd. Mae’r cwmni ar hyn o bryd yn llwyfannu y sioe gerdd Grease. Mi ofynnodd Caryl iddo fo‘n gynta, faint o sioeau maen nhw‘n arfer perfformio bob blwyddyn... Llwyfannu - To stage Sioe gerdd - Musical Cymeriadau - Characters Iesgob annwyl! - Good grief! Y brif ran - The main partRhaglen Bore Sul Yn 1963 recordiwyd Cymanfa Ganu arbennig yn Neuadd Albert Llundain gyda dros 5,000 o gantorion yn cymryd rhan. Mi roddodd Alun Thomas, cyflwynydd y rhaglen, apêl ar y cyfryngau cymdeithasol am unrhyw un oedd yn bresennol yn y recordiad hwnnw i gysylltu efo fo. Ac yn wir, mi gafodd ymateb gan Non Thomas, sy’n dod o Ferthyr yn wreiddiol, ond sy'n byw yn Hirwaun yng Nghwm Cynon erbyn hyn... Cymanfa Ganu - A hymn singing festival Cyflwynydd - Presenter Cyfryngau cymdeithasol - Social media Ymateb - Response Ymuno â - To join Gwasanaeth sifil - Civil Service Dipyn o fenter - Quite a venture Profiad - E

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 23ain o Fai 2023

    23/05/2023 Duration: 14min

    Pigion Dysgwyr – Ewan Smith...ar ei raglen wythnos diwetha cafodd Aled Hughes sgwrs gydag awdur sydd hefyd yn siaradwr Cymraeg newydd, ac wedi dysgu Cymraeg i lefel uchel iawn. Ewan Smith yw ei enw, a dyma Aled yn ei holi’n gynta am ble yn union mae e’n byw…Cylchgronnau Merched Women’s magazinesAelod MemberHen Ferchetan Old Maid (title of folk song)Prif gymeriad Main characterAm hwyl For funGwasg PressCyhoeddi PublishYn seiliedig ar Based on Yn addas i Suitable forPigion Dysgwyr – Wil RowlandsEwan Smith oedd hwnna’n sôn am ei nofel Hen Ferchetan sydd yn addas i ddysgwyr lefel Canolradd ac Uwch. Gwestai Beti George yr wythnos hon oedd yr artist o Ynys Môn, Wil Rowlands. Esboniodd Wil wrth Beti sut cwrddodd e â dau eicon enwog ar yr un diwrnod. Un oedd Andy Warhol a dyma Wil i esbonio pwy oedd y llall...Hap a damwain llwyr Pure luckEfrog Newydd New YorkYnghlwm â Connected toCynhadledd ConferenceWaeth i mi I might as wellCyfarwydd familiarPen ar

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 16eg o Fai 2023

    16/05/2023 Duration: 13min

    Pigion Dysgwyr - Catherine WoodwordWythnos diwetha ar ei rhaglen cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Catherine Woodward. Roedd Catherine yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed a dyma Shan yn gofyn iddi hi sut yn union oedd hi am ddathlu’r pen-blwydd arbennig hwn...Dathliadau CelebrationsCysylltu To contactBecso PoeniGwisgo lan To dress upNoswaith i ryfeddu A wonderous eveningCasglu To collectBryd ‘ny At that timePigion Dysgwyr – Betty Williams… a gobeithio bod Catherine wedi cael parti gwych on’d ife? Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl oedd cyn Aelod Seneddol Conwy Betty Williams. Dyma hi’n esbonio wrth Beti pam aeth hi i fyd gwleidyddiaeth yn y lle cynta…Cyngor Plwyf Parish CouncilCludiant TransportPwyllgorau CommitteesYr awydd i gynrychioli The desire to representAraith SpeechOedi To hesitate Mynwentydd CemeteriesLlwch llechen Slate dustCydymdeimlad SympathyDeddfu To legislate Pigion Dysgwyr – Ifan GwilymY cyn aelod seneddol Betty William

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 9fed o Fai 2023

    09/05/2023 Duration: 12min

    Pigion Dysgwyr – Sioned LewisSioned Lewis oedd gwestai Beti a'i Phobol, wythnos diwetha. Mae hi'n gwnselydd ac yn seicotherapydd a hi yw cwnselydd rhaglen Gwesty Aduniad ar S4C. Mae hi’n dod o Ddolwyddelan yn wreiddiol a buodd hi'n gweithio mewn sawl swydd wahanol, yn gwerthu tai, yn y byd teledu a gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Yn 1999 roedd rhaid i Sioned adael ei swydd oherwydd canser y fron ac roedd hynny’n adeg ofnadwy iddi hi. Ond yn y clip yma, sôn mae hi am ei ffrind gorau pan oedd hi’n ifancach...Pwdu To poutGolau FairDel PertDiog LazyCrafu To scratchGwrthod symud Refusing to moveWedi hen fynd Long gonePigion Dysgwyr – Eluned LeeSioned Lewis yn sôn am Pwyll ei cheffyl bach a’i ffrind gorau ar Beti a’i Phobol. Roedd rhaglen Shan Cothi yn rhoi sylw i wirfoddoli yr wythnos diwetha ac mae Eluned Lee yn gwirfoddoli gyda’r RSPB ar Warchodfa Ynys Lawd, Ynys Môn. Dyma hi i sôn ychydig am y Warchodfa…Gwarchodfa Ynys Lawd South Stack Nature ReserveGwirfoddoli To volun

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 2il o Fai 2023

    02/05/2023 Duration: 12min

    Pigion Dysgwyr – Geraldine MacByrne JonesMae Geraldine MacByrne Jones yn yn byw yn Llanrwst, ond yn dod o’r Wladfa yn wreiddiol, sef y rhan o Ariannin ble mae’r Gymraeg yn dal i gael ei siarad. Yr wythnos diwetha buodd hi’n sgwrsio gyda Aled Hughes am sut mae’r ddwy wlad, Cymru a’r Ariannin wedi ei hysbrydoli i farddoni…..Ariannin ArgentinaYsbrydoli To inspireBarddoni To write poetryTirwedd LandscapeYsbryd SpiritDaearyddiaeth gorfforol GeographyDychymyg ImaginationYsgogi To motivateDigwyddiadau hanesyddol An historical eventPigion Dysgwyr – Dafydd CadwaladrMate ydy’r diod mwya poblogaidd yn y Wladfa ond basai nifer yn dweud mai te ydy diod mwya poblogaidd Cymru, ac roedd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol Yfed Te yn ddiweddar. Ar eu rhaglen fore Gwener buodd Trystan ac Emma yn sgwrsio gyda un sydd yn ffan enfawr o yfed te sef Dafydd Cadwaladr o Fethesda. Dyma fe i sôn am ei hoff de…Nodweddiadol TypicalArogl AromaCryfhau a chyfoethogi To strengthen and enrichCwdyn BagYsgafnach

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Ebrill 2023

    26/04/2023 Duration: 15min

    Pigion Dysgwyr – Nia WilliamsCafodd Aled Hughes gwmni y seicolegydd Nia Williams yr wythnos diwetha i drafod chwerthin. Pam bod ni chwerthin tybed, a pha effaith mae chwerthin yn ei gael ar y corff? Dyma Nia’n esbonio... Chwerthin LaughterTreiddio i mewn To penetrateYmwybodol AwareYsbrydoli To inspireCadwyn A chainPryderus ConcernedDygymod efo To cope withDychwelyd To returnParhau To continuePigion Dysgwyr – Andy BellNia Williams oedd honna’n sgwrsio gydag Aled Hughes am chwerthin. Am dros ganrif, Sydney oedd dinas mwyaf poblog Awstralia. Ond erbyn hyn Melbourne sydd gyda’r teitl hwnnw, ar ôl i ffiniau‘r ddinas newid i gynnwys rhannau o ardal Melton. Ond mae rhai 'Sydneysiders' fel mae nhw'n cael eu galw - yn anhapus - ac yn cwestiynu'r ffordd y mae Melbourne wedi mynd ati i ehangu. Cafodd y newyddiadurwr Andy Bell sy’n byw yn Awstralia air am hyn gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio bnawn Mawrth…..Canrif CenturyPoblog PopulousFfiniau BordersEhangu To expandDiffiniad

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 18fed o Ebrill 2023

    18/04/2023 Duration: 11min

    Bore CothiDim ond ers blwyddyn mae Angharad Jones yn dysgu Cymraeg ac eto erbyn hyn mae hi’n ddigon rhugl i gynnal sgwrs ar Radio Cymru gyda Shan Cothi. Mae hi’n dod o Fedwas ger Caerffili a gofynnodd Shan iddi hi faint o Gymraeg oedd yn ei theulu... Pert DelYn ôl According toCenhedlaeth GenerationMo’yn EisiauLlywodraeth Cymru The Welsh GovernmentFfili credu Methu coelioYn gyffredinol GenerallyLlwyfan StageY TalwrnAngharad Jones oedd honna sydd wedi dysgu Cymraeg yn wych a hynny mewn blwyddyn yn unig. Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy Talwrn Radio Cymru ac yn aml iawn mae beirdd gorau a mwya profiadol Cymru yn cymryd rhan. Yr wythnos diwetha ar Y Talwrn, cynhaliwyd cystadleuaeth wahanol i’r arfer. Am y tro cyntaf dwy ysgol oedd yn cymryd rhan sef Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd a hynny yng Nghapel Bethel, Rhiwbeina.Pennill ymson SoliloquyGoruchwyliwr InvigilatorLleddf Miserable (but also = minor in music)Y gamp The achieve

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Ebrill 2023

    11/04/2023 Duration: 13min

    Pigion Dysgwyr – Al LewisAr Beti a’i Phobol dydd Sul diwetha cafodd Beti gwmni y cerddor Al Lewis fel gwestai. Esboniodd Al sut aeth e ati i sgwennu llythyrau ac i e-bostio er mwyn cael gwaith yn Nashville, Tennessee a llefydd eraill……Cynhyrchydd ProducerO fewn WithinCerddoriaeth MusicDychmygu To imagineBreuddwydion DreamsHynod dalentog Extremely talentedProfiad anhygoel An incredible experienceHwb A boostAr y trywydd iawn On the right trackCael ei barchu Being respectedPigion Dysgwyr – Sonia EdwardsProfiad anhygoel i Al Lewis yn fanna yn Nashville, Tenesse. Buodd y nofelydd Sonia Edwards yn sgwrsio gyda Dei Tomos ar ei raglen yr wythnos diwetha am ei nofel ddirgelwch newydd. Dyma Sonia i sôn mwy….Llacio To loosen Dirgelwch MysteryLlofruddiaeth MurderYn feddalach SofterYmgynghori To consultYmchwil To researchCyffuriau DrugsDarganfod To discoverYn ymarferol PracticalDoethuriaeth PhDPigion Dysgwyr – Jason MohammadA dyna i c

page 4 from 19