Synopsis
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Episodes
-
Dr Dewi Evans
01/10/2023 Duration: 48minPediatrydd yw gwestai Beti George a dreuliodd ei yrfa fel ymgynghorydd gofal plant yn Abertawe. Wedyn fe aeth i faes y gyfraith gan roi tystiolaeth mewn achosion Llys yn ymwneud a phlant. Yn y 30 mlynedd ers iddo ddechrau yn y maes yma mae wedi rhoi tystiolaeth mewn llysoedd ar draws gweledydd Prydain ac yn Iwerddon, ond achos Lucy Letby a garcharwyd am oes am lofruddio babanod bach oedd yn ei gofal mewn ysbyty yng Nghaer yw'r un mwyaf heriol hyd yma. Fe oedd un o brif dystion yr erlyniad.
-
Meinir Howells
03/09/2023 Duration: 56minMeinir Howells yw gwestai Beti George, ac mae ei angerdd tuag at y byd amaeth yn fawr. Mae hi’n gyflwynwraig teledu ac yn cyfuno hynny gyda ffermio gyda’i gŵr Gary ar fferm Shadog, sydd ym mhentre’ Cwrt, Llandysul. Mae hi hefyd yn fam i ddau fach, Sioned a Dafydd.Breuddwyd ers pan yn blentyn oedd bod yn gyflwynydd teledu a'i harwr mawr oedd Dai Jones Llanilar, feddyliodd hi erioed y byddai'n cael y cyfle i wneud gwaith tebyg 'dream job' oedd ei geiriau. Bu hefyd yn sôn fod ganddi ddyled fawr i Fudiad y Ffermwyr Ieuanc, ac na fyddai yn cyflwyno heddiw oni bai am y profiadau a gafodd gyda hwy.Mae Meinir yn weithgar gyda’r gymuned yn codi arian tuag at elusennau gwahanol, Tir Dewi, Ambiwlans Awyr ac elusennau cancr. Ar hyn o bryd mae hi yng nghanol ffilmio'r gyfres Ffermio, S4C a 3ydd cyfres Teulu Shadog a fydd yn cael ei darlledu mis Mawrth 2024.
-
Elin Maher
27/08/2023 Duration: 50minElin Maher yw gwestai Beti a'i Phobol. Mae hi'n gweithio fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol Rhieni Dros Addysg Gymraeg, ac yn ymgynghorydd iaith ac addysg lawrydd ers nifer o flynyddoedd bellach - ac wedi bod yn gweithio yn y byd addysg ac o fewn maes datblygu cymunedol a chynllunio ieithyddol trwy gydol ei gyrfa, gyda’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn graidd i’w gwaith. Yn enedigol o Gwm Tawe, ond yn byw yng Nghasnewydd gyda’i theulu ers ugain mlynedd. Mae’n parhau i weithio’n ddyfal yn datblygu addysg Gymraeg a’r Gymraeg o fewn y gymuned yng Ngwent a thu hwnt drwy ei gwaith fel llywodraeth wraig ysgol brofiadol ac aelod o fyrddau nifer o elusennau lleol a chenedlaethol. Bu'n byw yn yr Iwerddon am gyfnod ar ôl priodi Aidan yn 1998, fe gwrddodd y ddau yn 1993 pan oedd Elin wedi mynd efo’r Urdd i wersyll yn Iwerddon gan fudiad tebyg iawn i’r Urdd. Bu hefyd yn byw am gyfnod yn Angers, ardal y Loire yn Ffrainc yn ystod ei blwyddyn allan o'r Brifysgol.
-
Dr Eilir Hughes
11/08/2023 Duration: 50minMeddyg teulu a ddaeth i amlygrwydd reit o ddechrau’r pandemig gan iddo chwarae rhan mor bwysig wrth geisio rheoli'r Covid-19 yw gwestai Beti a'i Phobol, ac fe gafodd ei enwebu am ei waith ar gyfer un o wobrau Dewi Sant. Mae Dr Eilir Hughes yn gweithio fel meddyg teulu yn Nefyn, Gogledd Cymru.Mae'n gwerthuso meddygon teulu yn yr ardal a newydd ddechrau fel Cyfarwyddwr Meddygol gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.Sefydlodd ymgyrch Awyr Iach Cymru i hyrwyddo pwysigrwydd awyru a gwisgo masgiau i leihau'r risg o ledaenu a dal COVID-19. Daeth yn wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfnod. Sefydlodd raglen frechu yn y gymuned hefyd. Tŷ Doctor yn Nefyn oedd un o'r meddygfeydd cyntaf i frechu cleifion â'r brechlyn Pfizer.
-
Mared Rand Jones
23/07/2023 Duration: 50minGwestai Beti George yw Mared Rand Jones sydd wedi cychwyn ar ei rôl newydd fel Prif Weithredwr Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Cymru ers Ionawr 2023.Magwyd Mared ar fferm laeth, Llanfair Fach, Llanfair Clydogau, Llanbedr Pont Steffan.Mynychodd Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan ac yna Coleg y Drindod lle enillodd radd yn y Gymraeg ac Astudiaethau Theatr.Mae Mared yn mwynhau actio ac yn aelod o gwmni actio Theatr Felinfach ac yn actio’r cymeriad 'PC Wpsi Deisi' yn y pantomeim Nadolig blynyddol.
-
Cerys Hafana
09/07/2023 Duration: 50minMae Cerys Hafana yn gyfansoddwr ac aml-offerynnwr sy’n manglo a thrawsnewid cerddoriaeth draddodiadol. Mae ei cherddoriaeth yn chwarae efo posibiliadau unigryw’r delyn deires, gan gymryd ysbrydoliaeth o ddeunydd archifol a phrosesu electronig. Mae'n byw ym Machynlleth ac yn rhannu straeon am ei phlentyndod, ei dylanwadau cerddorol megis Nansi Richards, a Siân James. Mae'n trafod cerddoriaeth gwerin a'r feirniadaeth fu am ei gwaith a hefyd yn teimlo bod angen siarad mwy am rhywedd.
-
Dr Owain Rhys Hughes
02/07/2023 Duration: 50minGwestai Beti George ydi Dr Owain Rhys Hughes - llawfeddyg a pherchennog cwmni Cinapsis, meddalwedd sydd yn rhoi cymorth i feddygon a chleifion i gael diagnosis yn gynt. Wedi ei fagu ym Mhenmynydd ger Porthaethwy, aeth i Gaerdydd i astudio meddygaeth, a dewisodd fynd yn llawfeddyg gan ei fod yn mwynhau anatomi pan yn y Coleg. Yn ystod ei flwyddyn olaf yn y coleg cafodd y cyfle i fynd i weithio i Boston yn yr Unol Dalaethiau ar ôl cael cymrodoriaeth i Harvard. Mae'n mwynhau dringo yn ei amser sbâr.
-
Richard Hughes
25/06/2023 Duration: 51minArbenigwr ar gyfrifiaduron a mathemateg o Gaernarfon, Richard Hughes ydi gwestai Beti George. Mae'n raglennydd cyfrifiadureg, ac wedi gweithio ar systemau gweithredu ym meysydd awyr Heathrow a Charles de Gaulle. Mae wedi dysgu 10 o ieithoedd cyfrifiadurol, ac ati ac wedi ysgrifennu sawl rhaglen gyfrifiadurol ei hun. Bu'n gyrru lori, yn gwneud cyfrifiadur ar gyfer y ffilm Billion Dollar Brain efo Michael Caine yn y 60'au ac mae'n mwynhau chwarae'r ffliwt a dyfarnu snwcer, ac mae wedi ymgartrefu yn yr Almaen ers blynyddoedd.
-
Edward Morus Jones
18/06/2023 Duration: 51minEdward Morus Jones yw gwestai Beti George yr wythnos hon. Mae'n trafod ei gartref fferm Eithin Fynydd yn Llanuwchllyn, ac yn hel atgofion am recordio Cwm Rhyd y Rhosyn gyda Dafydd Iwan a'r cyfnod yn canu gyda Mary Hopkin.Ers 40 mlynedd mae wedi bod yn ymwneud â Chymru a’r byd ac eleni, cafodd ei anrhydeddu gan y sefydliad Cymru gogledd America, sef medal am ei gyfraniad ar hyd y blynyddoedd. Bellach mae Edward wedi dechrau pennod newydd yn ei fywyd, wrth iddo rannu ei amser rhwng Llangristiolus ac yn Philadelphia.
-
Carwyn Graves
11/06/2023 Duration: 50minBeti George yn sgwrsio gyda Carwyn Graves awdur a hanesydd bwyd Cymru. Carwyn yw awdur 'Afalau Cymru' a'r gyfrol o ysgrifau am fwyd 'Welsh Food Stories'. Mae Carwyn newydd gychwyn ar swydd newydd yng Nghanolfan Tir Glas, Llanbed sy'n fenter newydd sbon ar y cyd â’r Brifysgol yn Llanbed. Maent yn ceisio creu canolfan arloesol o gwmpas bwyd cynaliadwy. Ar hyn o bryd, mae’n bosib astudio bwyd os ydi rhywun yn awyddus i redeg tŷ bwyta neu astudio bwyd o safbwynt gwyddonol fel maetheg. Ond does dim cwrs wedi bod cyn hyn ar gyfer astudio bwyd o safbwynt diwylliannol. Sut mae tyfu bwyd ac adfer cymunedau – gweithio gyda’r sector amaeth. Mae cyrsiau fel hyn i’w cael yn yr Eidal – ond ddim ym Mhrydain.
-
Bethan Marlow
04/06/2023 Duration: 50minBethan Marlow, dramodydd sy'n sgwennu ar gyfer Theatr, Ffilm a Theledu, yw gwestai Beti George. Bethan yw'r dramodydd cyntaf i ddefnyddio arddull verbatim yn y Gymraeg, sef defnyddio geiriau go iawn pobol a'u troi yn ddramâu. Yn wreiddiol o bentref Bethel ger Caernarfon, bu Bethan yn byw yn Llundain, Caerdydd a Miami a bellach mae hi wedi ymgartrefu gyda Carolina a'r plant yn Lanzarote.Llun: Kristina Banholzer
-
Dafydd Hywel
28/05/2023 Duration: 49minFel teyrnged i’r diweddar Dafydd Hywel, dyma gyfuniad o ddwy raglen wnaeth Beti a'i Phobol recordio gyda'r actor yn 1984 a 2004.Yn wreiddiol o'r Garnant ger Rhydaman, bu'n actio ers y 1960au mewn cynyrchiadau Cymraeg a Saesneg ar lwyfan, ffilm a theledu.
-
Wil Rowlands
21/05/2023 Duration: 50minArtist o Ynys Môn yw gwestai Beti George. Cawn ei hanes yn cwrdd â Andy Warhol a Johnny Cash ac mae o’n sôn am ei gyfeillgarwch â R.S Thomas – mae ganddo lyfr sydd yn llawn brasluniau wnaeth o R.S Thomas wrth drafod Duw a chantorion Opera Rwsieg yn ei stiwdio yng Nghemaes.
-
Betty Williams
14/05/2023 Duration: 50minBeti George yn sgwrsio gyda Betty Williams Gwleidydd Llafur. Hi oedd Aelod Senedd y Deyrnas Unedig dros etholaeth Conwy o 1997 hyd 2010. Yn wreiddiol o Dalysarn, Dyffryn Nantlle. Mae hi'n rhannu straeon difyr ei bywyd ac yn dewis ambell gân.
-
Sioned Lewis
07/05/2023 Duration: 51minSioned Lewis, sy'n gwnselydd ac yn seicotherapydd, yw gwestai Beti a'i Phobol.Yn wreiddiol o Ddolwyddelan, bu'n gweithio mewn sawl maes gwahanol: yn gwerthu tai, yn y byd teledu a gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Yn 1999 gorfu i Sioned adael ei gwaith gan fod ganddi ganser y fron a bu'n gyfnod anodd ofnadwy iddi. Rhwng 1999- 2001 bu Sioned mewn ac allan o wahanol ysbytai. Sioned yw cwnselydd rhaglen Gwesty Aduniad.
-
Iola Ynyr
30/04/2023 Duration: 50minIola Ynyr, Cyfarwyddwr Creadigol ac Ysgrifenwraig yw gwestai Beti a'i Phobol. Byd y ddrama yw ei byd hi ac mae hi'n cynnal gweithdai ‘Ar y Dibyn’ sydd yn herio’r stereoteip o bobol sydd â dibyniaeth. Bu Iola’n dioddef o salwch meddwl - alcoholiaeth ac iselder ac mae hi'n trafod y cyfnod yma gyda Beti George.
-
Robat Idris
23/04/2023 Duration: 50minRobat Idris Davies o Ynys Môn yw gwestai Beti George. Mae'n ymgyrchydd brwd, yn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, ac yn Is-Gadeirydd Cymdeithas y Cymod. Mae hefyd yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Môn, yn Gyfarwyddwr Cymdeithas Morisiaid Môn, ac yn aelod o Bwyllgor Gweithredol PAWB – Pobl Atal Wylfa B. Mae'n sôn am ei waith fel Milfeddyg ac am ei gyfnod yn Japan yn dilyn dinistr Fukushima.
-
Al Lewis
09/04/2023 Duration: 50minY canwr a'r cyfansoddwr Al Lewis sydd yn gwmni i Beti George. Yn wreiddiol o Bwllheli, fe ymddangosodd Al, a’i gyfaill oes Arwel (Gildas) am y tro gyntaf ar ein sgrins teledu yn canu ‘Llosgi’ ar Cân i Gymru. Ers hynny mae wedi rhyddhau pump albwm yn y Gymraeg a dwy albwm Saesneg. Mae'n trafod galar gyda Beti a sut y gwnaeth marwolaeth ei Dad yn ifanc newid cwrs ei fywyd. Mae hefyd yn sôn am ei gyfnod yn Nashville a Llundain.
-
Elin Angharad
02/04/2023 Duration: 49minCrefftwraig lledr o ganolbarth Cymru yw Elin Angharad. Mae gwaith celf, dylunio a chreu wedi bod o ddiddordeb mawr iddi ers yn ifanc. Bu'n astudio cwrs 'Artist, Designer, Maker yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, ac wedyn cychwyn busnes ei hun yn dylunio a chreu cynnyrch wedi ei wneud o ledr.
-
Delyth Morgan
26/03/2023 Duration: 51minDelyth Morgan - actores, cyflwynydd a hyfforddwraig tîm rygbi merched Cymru dan 18 a 20 oed - sy'n gwmni i Beti George. Mae ganddi ddwy wlad mae hi'n galw'n gartref - Cymru a Seland Newydd. Fe aeth allan yno 20 mlynedd nôl, fe gafodd waith, priodi a bu'n datblygu rygbi merched. Mae hi nôl yng Nghymru gyda'i merch Seren, a rygbi yw ei byd mewn gwirionedd. Fe chwaraeodd dros Gymru a nawr mae hi'n rheoli tîm rygbi merched Cymru dan 18 ac 20 oed.