Beti A'i Phobol

  • Author: Vários
  • Narrator: Vários
  • Publisher: Podcast
  • Duration: 466:42:57
  • More information

Informações:

Synopsis

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Episodes

  • Yr Arglwydd Dafydd Wigley

    12/03/2024 Duration: 01h16min

    Yr Arglwydd Dafydd Wigley yw gwestai Beti George, a hynny 50 mlynedd ers ei ethol i San Steffan eleni. Mae'n trafod hanesion ei fywyd prysur ac yn dewis ambell gân.Wedi 50 mlynedd mewn gwleidyddiaeth mae'r Arglwydd Dafydd Wigley wedi penderfynu ymddeol o Dŷ'r Arglwyddi eleni. Mae’n dal record o ran Aelod Seneddol i gynyddu’r bleidlais a chynyddu canran y bleidlais a hynny mewn 5 etholiad yn olynol. Mae e wedi cynrychioli Arfon yn Senedd San Steffan am 27 mlynedd. Fe gafodd Mr Wigley ei ethol yn gynghorydd Plaid Cymru ym Merthyr yn 1972, cyn cynrychioli Caernarfon yn Nhŷ'r Cyffredin rhwng 1974 a 2001.Roedd yn Aelod Cynulliad i Gaernarfon rhwng 1999 a 2003 ac mae wedi bod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi ers 2011."Pan ddes i Dŷ'r Arglwyddi gyntaf ddeng mlynedd yn ôl, doedd aelodau fan hyn ddim yn cael ymddeol, mi oeddan nhw'n mynd allan pan oeddan nhw'n marw. Ond wrth gwrs mae hawl i ymddeol wedi dod i fewn."Cawn stori’r Gangster, Murray the Hump - Llewellyn Morris Humphreys, fyddai wedi bod yn drydydd cefnder i Da

  • Dr Caroline Turner

    03/03/2024 Duration: 50min

    Cyn Brif Weithredwr Cyngor Sir Powys, Dr Caroline Turner yw gwestai Beti George. Bu'n was sifil yn y Cynulliad fel roedd e arfer cael ei alw, ac fe fu'n 'Whistle Blower' unwaith hefyd pam doedd pethe ddim fel y dyle nhw fod yng Nghyngor Môn. Mae hi'n wreiddiol o Lanfachraeth, Ynys Môn. Mae'n rhannu straeon bywyd gyda Beti George ac yn dewis 4 cân sydd yn cofnodi cyfnodau mewn bywyd iddi gan gynnwys Enfys, Elin Fflur ac anthem Cyngor Ewrop.

  • Adam Jones

    25/02/2024 Duration: 50min

    Garddwr o Ddyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin yw Adam Jones, neu Adam yn yr ardd fel mae'n cael ei adnabod. Fe gychwynnodd ei ddiddordeb mewn garddio pan oedd yn 3 blwydd oed yng ngardd tad-cu yn tyfu llysiau o bob math mewn gardd fach yng Nglanaman. Roedd ei Dad-cu yn fentor pwysig iawn iddo ac ef wnaeth gychwyn a meithrin ei sgiliau a’i wybodaeth am arddio. " Mae 'na dueddiad di bod yn y gorffennol i wneud garddio yn rhywbeth uchel-ael ti'n gwybod tu hwnt i gyrraedd y werin datws" meddai Adam wrth Beti George. Tu hwnt i’r ardd, mae Adam yn dipyn o ieithydd. Yn ystod ei gyfnod yn y Coleg yn Aberystwyth, astudiodd Almaeneg ac mae’n siarad yr iaith, ynghyd â Sbaeneg, rhywfaint o Ffrangeg ac Eidaleg, ac ychydig o Rwsieg, Pwyleg, Tyrceg, Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban. “Dw i’n meddwl fy mod i’n berson eithaf busneslyd ac achos hynny dw i’n licio dysgu ieithoedd. Dw i’n gwylio lot o ffilmiau a rhaglenni mewn ieithoedd gwahanol". Bu’n gweithio ym myd cyfieithu a chyfathrebu ar ôl graddio, gyda’r Mentrau Iaith ac yna’r Col

  • Miriam Lynn

    11/02/2024 Duration: 51min

    Dr Miriam Lynn sy'n arbenigo ar gydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth mewn gwahanol feysydd yw gwestai Beti a'i Phobol. Cafodd ei magu ym mhentref bach Llanfynydd ger y Wyddgrug. Ei thaid oedd yr emynydd enwog John Roberts Llanfwrog, ac mae Miriam yn sôn am ei hafau hapus yn Sir Fôn gyda Thaid a Nain. Mynychodd Brifysgol Dundee i astudio Microbioleg. Fel rhan o’i gradd cafodd flwyddyn i astudio yn Edmonton Canada. Treuliodd amser gorau ei bywyd yno yn cael cyfle i deithio, sgïo a mynd i ‘r Rockies bob penwythnos. Ar ôl graddio gwnaeth Ddoethuriaeth yn Newcastle mewn Microbioleg, ond ‘roedd well ganddi weithio gyda phobol, ac yn y blynyddoedd diwethaf bu yn gweithio yn cefnogi pobl ifanc LGBTQ+. Fe gafodd ddiagnosis o MS pam yn 37 mlwydd oed, ac mae hynny wedi newid ei bywyd. Mae hi wedi addasu ei ffordd o fyw, ac yn gweithio rhan amser. Mae hi’n hanner Iddewes, bu’n perthyn i’r Crynwyr a nawr Bwdïaeth sydd yn rhoi iddi hapusrwydd a llonyddwch. Mae hi'n rhannu straeon bywyd ac yn dewis ambell i gân.

  • Meleri Wyn James

    04/02/2024 Duration: 50min

    Yr awdur a golygydd Meleri Wyn James yw gwestai Beti George. Cafodd ei magu yn Llandeilo, Beulah a Aberporth, ac mae hi bellach yn byw yn Aberystwyth. Mae hi'n redwraig frwd, ac yn credu bod rhedeg yn gymorth iddi gan ei bod yn byw gydag epilepsi. Mae hi wedi mabwysiadu dwy o enethod gyda’i gwr Siôn ac wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ar gyfer plant ac oedolion gan gynnwys y gyfres boblogaidd Na, Nel! i blant. Meleri oedd enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.

  • Guto Bebb

    28/01/2024 Duration: 01h17min

    Mae Guto'n Brif Weithredwr Gwasanaeth Yswiriant Undeb Amaethwyr Cymru ers 2020 ac yn Brif Weithredwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru yn ei gyfanrwydd ers Chwefror 2021. Cyn hynny, fe fu'n Aelod Seneddol dros Aberconwy am ddegawd gan wasanaethu fel Gweinidog yn Swyddfa Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn.Yn enedigol o Sir y Fflint, mae Guto wedi byw yng Nghaernarfon (ac eithrio ambell gyfnod yn crwydro) ers deugain mlynedd. Cyn ei ethol i San Steffan fe fu'n rhedeg amrywiol fusnesau gan gynnwys Ymgynghoriaeth Datblygu Economaidd a Siop Lyfrau. Am gyfnod, bu hefyd yn gydberchennog ar dŷ tafarn.Mae'n rhannu straeon am ei fywyd gyda Beti George ac yn sôn i'w yrfa bleidiol wleidyddol mewn dwy blaid wedi dod i ben oherwydd materion Ewropeaidd. Cawn glywed am ei hoffter o gerddoriaeth o bob math, a'i gasgliad o recordiau sy'n cynnwys nifer o rai Bruce Springsteen a Marillion.

  • clare e.potter

    21/01/2024 Duration: 50min

    Bardd a pherfformwraig ddwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi M.A. mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd o Brifysgol Mississippi. Bu’n byw yn New Orleans am ddegawd a chafodd gyllid gan Gyngor y Celfyddydau i ymateb i ddinistr Corwynt Katrina gyda phumawd jazz. Mae clare wedi cyfieithu gwaith Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ac mae’n cydweithio ag artistiaid i greu gosodiadau barddoniaeth mewn gofodau cyhoeddus. Enillodd Wobr John Trip am Berfformio Barddoniaeth yn 2005 a bu gyda’i thad ar y Listening Project ar BBC Radio 4, yn archwilio tarddiad emosiwn mewn barddoniaeth. Yn 2018, clare oedd bardd preswyl Gŵyl Velvet Coalmine – lle bu yn Sefydliad y Glowyr yn casglu straeon pobl am yr adeilad diwylliannol a gwleidyddol bwysig hwnnw. Mae'n enedigol o bentref Cefn Fforest ger Caerffili. Saesneg oedd iaith yr aelwyd a'r pentref ac fe gafodd ei ysbrydoli gan athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun Coed Duon ac aeth ati i ddysgu'r iaith.Clare oedd Bardd y Mis Radio Cymru cyn y Nadolig 2023.

  • Nayema Khan Williams

    14/01/2024 Duration: 50min

    Nayema Khan Williams sy’n ymuno â Beti. Mae Nayema a’i gŵr Osian yn rhan o gyfres Gogglebocs Cymru ar S4C ar hyn o bryd. Cawn glywed ei hanes difyr yn mentro o fyd y gwasanaeth iechyd i fyd triniaethau anfeddygol. Cafodd ei magu yng Nghaernarfon, daeth ei rhieni – Mirwas Kahn a Zari Kahn y ddau’n wreiddiol o Pacistan. Daeth ei thad draw yn y 50/60au i Gaernarfon ac fe ddilynodd ei mam wedyn . Mae Nayema yn un o naw o blant a hi ydi’r ieuengaf ond un. Gwraig tŷ oedd ei mam a phan ddaeth ei thad draw o Bacistan i gychwyn bu’n gwerthu bagiau o gwmpas y tafarndai. Yna bu’n gwerthu bagiau yn farchnad Caernarfon ac mewn marchnadoedd eraill am flynyddoedd. Cafodd ei magu’n Moslem ac 'roedd ei thad yn ffigwr blaenllaw yn y Mosque ym Mangor. Mae Naymea’n credu’n gryf fod angen mwy o ferched fentro mewn busnesau ac na ddylai merched ddim bod ofn cymryd y risg i ddechrau a chychwyn busnesau eu hunain.

  • Liz Saville Roberts

    07/01/2024 Duration: 51min

    Yr Aelod Seneddol Liz Saville Roberts ydi gwestai Beti George. Y ferch gyntaf yn hanes Plaid Cymru i ennill sedd yn Senedd San Steffan yn cynrychioli Dwyfor Meirionnydd. Cyn mentro i faes gwleidyddiaeth bu’n newyddiadura ac yn darlithio. Cafodd ei geni a’i magu yn Ne Ddwyrain Llundain. Aeth i’r Coleg yn Aberystwyth i astudio Cymraeg a Llydaweg a’r Mabinogi sy’n gyfrifol am ei denu i Gymru a chofleidio’r iaith a’i diwylliant.

  • Ifan Phillips

    31/12/2023 Duration: 50min

    Y cyn chwaraewr Rygbi Ifan Phillips ydi gwestai Beti a’i Phobol. Un sydd wedi chwarae Rygbi dros Gymru i’r tîm dan ugain yn y flwyddyn enillon nhw bencampwriaeth y chwe gwlad am y tro cyntaf. Mae wedi chwarae efo’r Gweilch yn safle’r Bachwr ond daeth hynny i gyd i ben ar ôl iddo gael damwain erchyll ar ei fotobeic. Mae o bellach yn hyfforddi tîm Crymych ac yn sylwebu ar y gêm.

  • Yws Gwynedd

    24/12/2023 Duration: 59min

    Y cerddor a Rheolwr Cwmni Recordiau Cosh, Yws Gwynedd ydi gwestai Beti a’i Phobol. Mae’n sôn am ei fywyd, algorithmau cerddorol, chwarae pêl droed, ei pum sied, tyfu llysiau, a'i deulu gan gynnwys hanes colli ei dad yn ystod cyfnod Cofid.

  • Cleif Harpwood

    10/12/2023 Duration: 51min

    Prif leisydd y band arloesol Edward H. Dafis, Cleif Harpwood yw gwestai Beti a’i Phobol, ond yn y rhifyn yma mae’n trafod mwy am hanes ei fywyd na’i gerddoriaeth. Bu’n hel atgofion gyda Beti George am ei fagwraeth yng Nghwmafan ac yn sôn am siop bapur newydd ei Dad, ac effaith y ffordd osgoi ar gymunedau’r ardal. Mae’n sôn am iselder sydd wedi ei lethu ar brydiau a hynny mae’n credu wedi deillio o’r elfen grefyddol yn ei fagwraeth yn Aberafan. Mae bellach wedi symud nôl i'r Gorllewin i fyw ac yn dewis 4 o'i hoff ganeuon, gan gynnwys 'Anifail' gan Candelas.

  • Rory Francis

    03/12/2023 Duration: 50min

    Rory Francis yr amgylcheddwr, ymgyrchydd a chyfathrebwr sy'n gweithio dros Gymru wyrddach mewn byd mwy cynaliadwy yw gwestai Beti George. Mae'n siarad 9 iaith ac fe ddechreuodd yr awch i ddysgu ieithoedd yn 6 mlwydd oed ym Mhenbedw. Rhyw 6 mlynedd nôl fe ddechreuodd ddysgu Rwsieg, ac mae'n weddol rhugl bellach yn yr iaith yna hefyd.

  • Tomos Parry

    19/11/2023 Duration: 49min

    Beti George yn sgwrsio gyda'r cogydd, Tomos Parry o Ynys Môn sydd wedi ennill ei seren Michelin gyntaf am ei fwyty yn Llundain. Agorodd Tomos fwyty Brat yn Shoreditch ym mis Mawrth 2018 ac mae wedi mynd o nerth i nerth. Cafodd y seren ei gwobrwyo i Tomos gan Michelin am "goginio rhagorol dros dân agored". Dros gyfnod COVID agorodd Tomos dŷ bwyta Brats Outdoors lle roedd cwsmeriaid yn gallu eistedd tu allan. Roedd hwn eto’n lwyddiant ac mae’n dal i fynd yn Hackney. Ei fenter ddiweddaraf ydi’r tŷ bwyta Mountain yn Soho a agorwyd yn mis Gorffennaf 2023. Hefyd, Tomos wnaeth goginio pryd o fwyd i ddathlu 20 mlynedd o briodas David a Victoria Beckham.

  • Bronwen Lewis

    12/11/2023 Duration: 50min

    Y gantores Bronwen Lewis sydd yn cadw cwmni gyda Beti George. Fe ddaeth i amlygrwydd yn ystod y cyfnod clo gan iddi rannu ei chaneuon ar y gwefannau cymdeithasol. Fe gafodd brofiad diflas ar sioe dalent The Voice, ond fe agorodd drysau eraill, bu'n canu ar y ffilm Pride ac mae hi bellach yn cyflwyno ar Radio Wales. Mae'r gantores ifanc o Gwm Dulais yn trafod pam mor allweddol mae'r Gymraeg wedi bod ym mhob rhan o’i gyrfa hyd yn hyn, ac mae hefyd yn sôn am ei diagnosis llynedd o ADHD a hefyd Rejection sensitive dysphoria (RSD).

  • Guto Harri

    05/11/2023 Duration: 01h12min

    Y newyddiadurwr a'r ymgynghorydd cyfathrebu Guto Harri yw gwestai Beti George. Mae'n trafod ei gyfnod yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu i'r Prif Weinidog Boris Johnson, ac yn rhannu straeon am y cyfnod y bu'n gweithio wrth galon yr hyn oedd yn digwydd yn San Steffan, mewn cyfnod cythryblus yn hanes y lle. Bu'n gweithio i geisio adfer enw da papurau newydd Rupert Murdoch yn ystod cyfnod y 'phone hacking'. Bu hefyd yn gyflwynydd gyda GB News, ar raglen "Y Byd yn ei Le" ar S4C ac yn gweithio gyda chwmni Liberty Global. Cawn ei hanes yn brechu pobol yn ystod cyfnod Covid-19, ac mae'n sôn am yr ergyd o golli ei chwaer, ei Dad a'i ffrind pennaf.

  • Mali Ann Rees

    29/10/2023 Duration: 49min

    Yr actores Mali Ann Rees ydi gwestai Beti a’i Phobol. A hithau ond yn 17 oed bu’n ddisgybl mewn Coleg yn India am ddwy flynedd yn astudio bagloriaeth ryngwladol. Bu ddigon ffodus wedyn i gael ei derbyn i goleg drama yn Llundain ond yn anffodus ni wnaeth hi fwynhau ei chyfnod yno gan i’r coleg gnocio ei hyder yn llwyr. Serch hynny, mae Mali yn un o’r actoresau amlycaf ac wedi actio mewn nifer o gynyrchiadau nodedig fel Craith, The Tourist Trap a The Pact. Mae hi hefyd yn un o dair sy’n cyfrannu i’r podlediad wythnosol, Mel Mal a Jal, sef tair Cymraes siaradus.

  • Felicity Roberts

    23/10/2023 Duration: 48min

    Mae Felicity Roberts yn Diwtor a Chydlynydd Cymraeg i Oedolion yn Dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae wedi bod yn diwtor Cymraeg am dros hanner can mlynedd. Yn 2023 enillodd wobr am fod yn diwtor Cymraeg Ysbrydoledig gyda ‘Inspire Awards’ dan nawdd Llywodraeth Cymru. Magwyd Felicity ar aelwyd llawn cariad yn Chwilog a bu ei magwraeth yno yn ysbrydoliaeth iddi ar hyd ei hoes. Cafodd ei haddysg yn ysgol gynradd Chwilog hyd nes roedd hi’n 8 oed, yna am 3 blynedd bu’n aros yng nghwfaint St Gerard’s Bangor. Roedd ei rhieni’n awyddus iddi gael addysg yn y cwfaint er mwyn gwneud yn siŵr bod Felicity yn pasio’r arholiad 11+. Yna mynychodd Ysgol Ramadeg Pwllheli ac ar ôl 2 flynedd ym Mhwllheli safodd yr arholiadau i fynd i Ysgol Howells yn Ninbych. Ers dyddiau ysgol roedd hi wedi bod yn canlyn Robert Roberts ac roedd y ddau’n fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor. Priododd y ddau ar ddiwedd eu blwyddyn gyntaf a ganwyd eu plentyn cyntaf ar ddiwedd eu hail flwyddyn, y cyntaf o chwe phlentyn i'r ddau. Swydd gy

  • Richard Holt

    08/10/2023 Duration: 50min

    Mae stori Richard Holt y cogydd a'r gŵr busnes o Ynys Môn yn llawn troeon annisgwyl. Gradd mewn technoleg cerdd sydd ganddo o Brifysgol Caerdydd, ond ar ôl gweithio mewn tai bwyta yn Ynys Môn ac i'r cogydd enwog Marcus Wareing yn Llundain fe gafodd ei ddadrithio a rhwng swyddi coginio fe aeth at y Llu Awyr i fod yn beilot, ond doedd ganddo ddim yr arian i dalu am yr hyfforddiant i hedfan awyren. Yna tro annisgwyl arall a hynny ar ôl darllen llyfr 'Think and Grow Rich' pan ar ei wyliau yn y Grand Canyon, ac ar ôl dychwelyd i Ynys Môn ar ôl cyfnod yn Llundain fe ddaeth tro annisgwyl arall, diolch i Meinir Gwilym gan iddi anfon neges ato yn sôn bod les Melin Llynon yn Llanddeusant ar gael, a hynny yn ystod cyfnod covid yn 2019. Bellach mae o'n rhedeg busnes llwyddiannus yn creu teisennau rhyfeddol, siocled a gin ac yn cyflogi ei deulu ac yn mwynhau cyflwyno Yr Academi Felys ar S4C.

  • Dr Dewi Evans

    01/10/2023 Duration: 48min

    Pediatrydd yw gwestai Beti George a dreuliodd ei yrfa fel ymgynghorydd gofal plant yn Abertawe. Wedyn fe aeth i faes y gyfraith gan roi tystiolaeth mewn achosion Llys yn ymwneud a phlant. Yn y 30 mlynedd ers iddo ddechrau yn y maes yma mae wedi rhoi tystiolaeth mewn llysoedd ar draws gweledydd Prydain ac yn Iwerddon, ond achos Lucy Letby a garcharwyd am oes am lofruddio babanod bach oedd yn ei gofal mewn ysbyty yng Nghaer yw'r un mwyaf heriol hyd yma. Fe oedd un o brif dystion yr erlyniad.

page 4 from 32