Synopsis
Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.
Episodes
-
Pigion y Dysgwyr 2il Ebrill 2021
02/04/2021 Duration: 14minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … TROI’R TIR Mae Steffan Harri yn actor llwyddiannus sy wedi serenu ar lwyfan y West End mewn sioeau mawr fel Shrek, ond gyda’r theatrau ar gau, penderfynodd Steffan fynd yn ôl i helpu ar y fferm deuluol. Dyma fe’n dweud yr hanes ar Troi TirParhau To continueŴyna LambingDyweddio To engage (to marry)Gwarchod yr ŵyn swcis Looking after the pet lambsBugeilio ShepherdingGwellt HayByrlymus Extremely busyUffernol HellishWlyb sopen Extremely wetColledion LossesSTIWDIO Yr actor Steffan Harri oedd hwnna’n rhoi blas ar fywyd fferm ar yr adeg prysur hwn iddyn nhw. Ac i ni aros myd y theatr, roedd dydd Llun diwetha yn Ddiwrnod Theatr y Byd, ac ar Stiwdio cafodd Nia Roberts sgwrs gyda Melisa Annis, sy’n byw yn Efrog Newydd ac yn gweithio ym myd y theatr yno. Yn y darn yma, mae Melisa’n egl
-
Pigion y Dysgwyr 26ain Mawrth 2021
26/03/2021 Duration: 14minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” NIA ROBERTS - MORFYDD CLARK Mae Morfudd Clark yn Seland Newydd ar hyn o bryd yn ffilmio cyfres newydd o Game of Thrones, a fel soniodd hi wrth Nia Roberts, roedd cael Cymro arall ar y set yn gysur mawr iddi hi… Cyfres - SeriesCysur mawr - A great comfortCwympo mewn cariad - To fall in loveProfiad - ExperienceSylweddoli - To realiseSo ti’n deall - Dwyt ti ddim yn deallALED HUGHES Morfudd Clarke yn cael amser i ymarfer ei Chymraeg tra’n ffilmio Game of Thrones- da on’d ife? Ar raglen Aled Hughes clywon ni sut mae’r môr a syrffio yn arbennig wedi helpu merch ifanc gydag iselder. Dyma i chi flas ar y sgwrs rhwng Aled a Laura Truelove o'r Rhondda …Cyfnod o iselder - A period of depressionNofio gwyllt - Wild swimmingPwerus iawn - Very powerfulCysylltiad - ConnectionAr bwys - Wrth ymylRhyddhau - To re
-
Pigion y Dysgwyr 12fed Mawrth 2021
12/03/2021 Duration: 15minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … TRYSTAN AC EMMA Roedd gan Trystan ac Emma ddiddordeb mawr mewn rhestr oedden nhw wedi ei weld o‘r gemau bwrdd mwya poblogaidd – a Monopoly oedd ar y brig wrth gwrs! Cafodd y ddau sgwrs gyda Dyfed Edwards o gwmni What Board Games i drafod y rhestr ac i ystyried apel gemau bwrdd yn gyffredinolRhestr - List Gemau bwrdd - Board gamesAr y brig - In the top spotYstyried - To considerYn gyffredinol - GenerallyYn amlwg - ObviouslyEnnyn diddordeb - To arouse the interestYmddiddori - To be interested inEhangu meddyliau - To expand the mindsRhyngrwyd - InternetFFION EMYR A dw i’n siŵr bod llawer mwy ohonon ni wedi bod yn chwarae gemau bwrdd yn ystod y cyfnod clo on’d oes? Rhywbeth arall sy wedi bod yn boblogaidd yn ystod y flwyddyn ddiwetha ydy cwisiau. Daeth Cris, cwis feistr rhaglen Geth a Ger i gael
-
Pigion Dysgwyr 5ed Mawrth 2021
05/03/2021 Duration: 14minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Sioe Frecwast - Andria Doherty Dych chi’n un o’r miliynau sy wedi gwylio It’s a Sin ar Channel 4? Roedd cysylltiad Cymreig cryf gyda’r gyfres gan fod dau o’r actorion yn dod o Gymru ac yn siarad Cymraeg. Roedd Andria Doherty yn actio rhan Eileen, mam un o brif gymeriadau’r gyfres, Colin. Andria oedd gwestai Daf a Caryl ar Radio Cymru 2 a dyma hi’n rhoi ychydig bach o’i hanes…Cyfres - SeriesGwallgo(f) - MadDros ben llestri - Over the topYmateb - ResponsePoblogaidd - PopularEnfawr - HugeYsgytwol - Mind-blowingDiweddar - RecentAdrodd - RecitationYchwanegolion - ExtrasNathan Brew Andria Doherty oedd honna, un o sêr It’s a Sin, yn sgwrsio gyda Daf a Caryl. Un arall o westeion RC2 yr wythnos diwetha, oedd y sylwebydd a’r cyn chwaraewr rygbi Nathan Bre
-
Pigion y Dysgwyr 26ain Chwefror 2021
26/02/2021 Duration: 14minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Vicky Jones - Trystan ac Emma Roedd Vicky Jones o Benmaenmawr yn digwydd bod yn sgwrsio gyda Trystan ac Emma am wneud cacennau pen-blwydd, a dyma hi’n digwydd sôn am gwsmeriaid enwog iawn brynodd gacennau ganddi hi’n ddiweddar...Yn ddiweddar - RecentlyDigwydd bod - Happened to bePobi - To bakeTra bo nhw - While they wereBaner - FlagNeidr - SnakeMwydod - WormsBethan Clements - Sioe Frecwast Vicky yn amlwg wedi gwneud argraff dda iawn ar griw ‘I’m a Celebrity’ gyda’i chacennau arbennig. Y sylwebydd chwaraeon, Bethan Clement oedd yn ateb cwestiynau cocadwdl-ydw ar raglen Huw Stephens wythnos diwetha. Dyma ffordd arbennig Huw o ddod i nabod ei westeion yn well – mae’n rhaid iddyn ateb bob cwestiwn gyda cocadwdl- ydw neu wrth gwrs cocadwdl- nac ydw ! Argraff dda iawn - A very good impressionSylwebydd
-
Pigion y Dysgwyr 18fed Chwefror 2021
19/02/2021 Duration: 49sS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Dros Ginio - Anthony Evans Morgi a Draenog y Môr- dyn nhw dim yn swnio’n ddeniadol iawn nac ydyn, er eu bod yn bysgod blasus iawn. Mae pysgotwyr yng Nghernyw eisiau newid enwau eu pysgod er mwyn iddyn nhw swnio’n fwy lleol a deniadol. Ddylai ni wneud yr un peth yng Nghymru? Dyma farn y cogydd Anthony Evans yn sgwrsio gyda Vaughan Roderick… Morgi - DogfishDraenog y Môr - Sea BassPwysleisio - To emphasiseCregyn gleision - MusselsCynnyrch - ProduceMoethus - LuxuriousCroen - SkinPapur tywod - SandpaperDros Frecwast - Cledwyn Ashford Y cogydd Anthony Evans oedd hwnna yn meddwl dylid newid enwau rhai o‘r pysgod sy’n cael eu dal yng Nghymru. Mae ychydig bach o Hollywood wedi cyrraedd Wrecsam gyda’r newyddion bod yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi prynu’r clwb pêl-droed. Mae ffans y clwb wrth eu boddau a dym
-
Pigion y Dysgwyr 12fed Chwefror 2021
12/02/2021 Duration: 16minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … TROI’R TIR Roedd gêm gynta Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn un gyffrous iawn gyda Chymru yn ennill o bum pwynt yn unig. Pwy tybed oedd Gwenan Morgan Lyttle yn ei gefnogi dydd Sadwrn gan ei bod hi bellach yn byw yng Ngogledd Iwerddon ac wedi priodi Gwyddel? Dyma i chi glip o Gwenan yn sgwrsio gyda Terwyn Davies ar Troi TirPencampwriaeth y Chwe Gwlad - Six Nations ChampionshipCefnogi - To supportGwyddel - An IrishmanGwartheg - CattleTad-cu - TaidBugail - ShepheardYn y gwaed - In the bloodY Weriniaeth - The RepublicHwyluso - To facilitateAr y ffin - On the borderDANIEL GLYN AC ELLIW GWAWR Dw i’n siŵr bod Gwenan yn hapus iawn dydd Sadwrn ar ôl i Gymru guro’r Iwerddon. Y newyddiadurwraig Elliw Gwawr oedd gwestai Daniel Glyn ar y sioe Frecwast dros y penwythnos. Dyma hi
-
Pigion Dysgwyr 5ed Chwefror 2021
05/02/2021 Duration: 16minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Steffan Cennydd Os oeddech chi’n un o’r miliynau wyliodd y gyfres The Pembrokeshire Murders ar ITV yn ddiweddar, efallai eich bod chi’n cofio cymeriad mab y ditectif DCI Steve Wilkins. Luke Evans oedd yn chwarae rhan y ditectif a Steffan Cennydd o Gaerfyrddin oedd yn chwarae rhan y mab. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Caryl a Daf gyda Steffan ar eu rhaglen yr wythnos ymaMwya llwyddiannus - Most successfulGolygfa - SceneGyferbyn â - Opposite toMae’n fyd enwog - He’s world famousEgni - EnergyRhwydd - HawddDerwen - OakMarian Brosschot Steffan Cennydd oedd hwnna ac roedd e’n amlwg wedi mwynhau cymryd rhan yn The Pembrokeshire Murders. Mae Marian Brosschot yn diwtor Cymraeg i Brifysgol Bangor a buodd hi'n dysgu Cymraeg ym Mhatagonia y llynedd. Mae hi’n rhugl mewn Cymraeg, Saesneg, Iseldireg a Sbaeneg ac mae hi nawr
-
Pigion y Dysgwyr 29ain Ionawr 2020
29/01/2021 Duration: 16minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … OWAIN TUDUR JONES Y cyn bêl-droediwr Owain Tudur Jones oedd gwestai Lisa fore Sul. Enillodd Owain saith cap pêl-droed dros Gymru ac mae e nawr yn sylwebu ar gemau pêl-droed ar ran S4C. Ond am ei ddiddordeb mawr mewn dringo mynyddoedd Eryri buodd e’n sôn wrth Lisa. Dyma i chi flas ar y sgwrs… Sylwebu - To commentateSbïo - EdrychGwerthfawrogi - To appreciateGolygfeydd - ViewsHer - A challengeCuriad y galon - The heartbeatCynyddu - IncreasingDatblygu - DevelopsAdnabyddus - Well knownYsfa - Urge Gofal biau hi - Take careTRYSTAN AC EMMA Owain Tudur Jones oedd hwnna’n sôn am ei hoffter o fynydda. Sut mae gwneud y baned berffaith? Dyma farn Eirlys Smith o Gaffi Paned Pinc yn Llangadfan ynm Mhowys ar raglen Trystan ac Emma…Llaeth - LlefrithTywallt - To pourYmdrech - EffortLlesol - BeneficialDail te - Tea
-
Pigion y Dysgwyr 21ain Ionawr 2020
22/01/2021 Duration: 14minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … AR Y MARC Mae Luke Williams o Stafford wedi dechrau cyfrif Twitter, Pêl-droed 5 munud - @PD5Munud, i helpu pobl ddysgu Cymraeg – a hynny drwy ddefnyddio eu cariad tuag at bêl-droed. Cafodd Dylan Jones air gyda Luke ar Ar y MarcDechreuwr - BeginnerCanolradd - IntermediateParhau - To continueBarnau - OpinionsCyfle - OpportunityGwelliannau - ImprovementsBYWYD YN HAWS Blog Cymraeg i ddysgwyr sy’n licio pêl-droed – da iawn Luke - am syniad gwych. Hana Hopwood Griffiths oedd yn gofyn beth sy'n gwneud bywyd yn haws i Sophie Richards, ond am gyfnod doedd ei bywyd hi ddim yn hawdd o gwbl. Buodd Sophie am flynyddoedd yn diodde o boenau yn ei bol ac ar ei brest a doedd y meddygon ddim yn siŵr beth oedd yn bod arni hi. Yn y diwedd cafodd hi ddiagnosis ei bod hi’n diodde o’r cyflwr endometriosis ac mae hi erbyn hyn yn cynnal blog i help
-
Pigion y Dysgwyr 15fed Hydref 2020
15/01/2021 Duration: 15minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” Ffion Emyr a Tim …ga i ddymuno blwyddyn newydd dda i chi gyd, ac ar ddechrau’r flwyddyn newydd, cafodd Ffion Emyr sgwrs gyda Tim, sy’n dod o Fethesda yng Ngwynedd yn wreiddiol ond sy erbyn hyn yn byw yn Fflorida. Cwestiwn cynta Ffion i Tim oedd ers pryd mae e’n byw yn Fflorida… Di mopio efo’r lle - Wedi dwlu ar y lleFatha - Fel (yr un fath â) Diodydd - Drinks Beti George a Mark Drayford Coctêls arbennig Betesda yn fan’na …yr holl ffordd o Fflorida. Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford oedd gwestai Beti George yr wythnos diwetha ac yn y clip yma mae e’n sôn am yr adeg gwnaeth e ddysgu siarad Cymraeg yn rhugl… Prif Weinidog - First MinisterTad-cu - GrandfatherCwrdd gyda - Cyfarfod efoO ddifri - SeriouslyLlywodraeth - GovernmentDegawd - DecadeDatganoli - DevolutionCyfleon - Op
-
Pigion y Dysgwyr 25ain Rhagfyr 2020
25/12/2020 Duration: 13minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” DROS GINIO … gadawodd Jessy y band Little Mix achos ei hiechyd wythnos diwetha. Buodd Vaughan Roderick yn sôn am hyn gyda Lloyd Macey, cyn gystadleuwr yr X-Factor, ar un o raglenni Dros, a buon nhw’n trafod hefyd y pwysau mawr sy ar bobl yn llygaid y cyhoedd,. Pwysau - PressureLlygad y cyhoedd - The public eyeSylwadau - CommentsCystadleuwyr - CompetitorsCreulon - CruelSo nhw’n gadael - Dyn nhw ddim yn gadaelYmateb - ResponsePydew - WellGwenwynig - PoisonousCyfathrebu - To communicateBeirniadu - To criticiseALED HUGHES Lloyd Macey oedd hwnna’n sôn wrth Vaughan Roderick am y pwysau sy ar bobl yn llygad y cyhoedd y dyddiau hyn. Wnaethoch chi sylwi ar seren ddisglair iawn yn yr awyr wythnos yma? Ai dyma oedd y seren mae sôn amdani yn Stori’r Geni tybed? Dyma farn y ffisegwr Aled Il
-
Pigion y Dysgwyr 18fed Rhagfyr 2020
18/12/2020 Duration: 16minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … GWNEUD BYWYD YN HAWS Ar y rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws mae Hanna Hopwood Griffiths a'i gwestai'n trafod beth sy'n gwneud bywyd yn haws iddyn nhw. Dyma Carys Evans, sy’n dod o Ynys Môn yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw yn Sir Fynwy, ac mae hi’n ysgrifennu blog o’r enw Colon Lân , er mwyn rhannu beth wnaeth bywyd ychydig bach yn haws iddi ar ôl iddi gael diagnosis o gansr y coluddyn. Cansr y coluddyn - Bowel cancerYmwybodol - AwareParhau - To continueProfion gwaed - Blood testsRhyw fath o dyfiannau - Some kind of growths Iau - LiverYmledu - To spreadCadarnhau - To confirmTriniaeth - TreatmentRhannu fy mhrofiadau - To share my experiencesSTIWDIO Carys Evans oedd honna yn dweud beth wnaeth bywyd yn haws iddi hi ar ôl iddi gael newyddion drwg iawn am ei hiechyd. Wel, mae hi bron yn Nadoli
-
Pigion y Dysgwyr 12fed Rhagfyr 2020
11/12/2020 Duration: 15minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Daniel Glyn - Connie Orff Y cymeriad drag – Connie Orff, neu Alun Saunders, oedd gwestai Daniel Glyn fore Sadwrn a buodd e’n sôn wrth Daniel am sut dechreuodd Alun berfformio fel y cymeriad ‘Connie Orff’…… Cymeriad - CharacterLlwyfan - StageCynulleidfa - AudienceFfurfiau - FormsYsgol Glanaethwy - A Welsh language performance schoolGeraint Lloyd - Llion Jones Hanes y cymeriad drag ‘ Connie Orff’ yn fan’na ar raglen Daniel Glyn. Mae hi wedi bod yn anodd gweudd llawer o bethau yn ystod y cyfnod clo, on’d yw hi? Ac un o’r pethau hynny yw priodi, fel clywon ni gan Llion Jones, sy’n athro Cymraeg, ac oedd wedi gorfod gohirio ei briodas ddwywaith yn ystod y cyfnod… Gorfod gohirio - had to postponeY pedwerydd ar bymtheg - The 19thDigwydd bod - As it happenedBellach - By nowGwas Priodas - Best manDarlledu’n fyw
-
Pigion y Dysgwyr 4ydd Rhagfyr 2020
04/12/2020 Duration: 15min"S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … " ALED HUGHES - RHYS AB OWEN Mae na lawer o bobl yn credu mai rhywbeth newydd yw clywed Cymraeg yn cael ei siarad mewn rhannau o Gaerdydd. Ond mae llyfr Owen John Thomas, The Welsh Language in Cardiff : A history of survival yn dangos bod yr iaith wedi bod yn fyw iawn mewn sawl ardal o’r ddinas yn y gorffennol. Daeth mab yr awdur, Rhys ab Owen, i sgwrsio am y llyfr gydag Aled Hughes a dyma i chi flas ar y sgwrs… Y bedwaredd ganrif ar bymtheg - 19th Century Enghreifftiau - ExamplesY mwyafrif llethol - The vast majorityCyfrifiad - CensusYn fanteisiol iawn - Very advantageousDelwedd - ImageCanrif yn ddiweddarach - A century laterTu fas - OutsideY dystiolaeth - The evidenceYr Eglwys Newydd - WhitchurchFFION EMYR - SANDRA LLAN
-
Pigion y Dysgwyr 27ain Tachwedd 2020
27/11/2020 Duration: 15minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … JENI OGWEN - IFAN EVANS ...beth dych chi’n feddwl sy’n gyffredin rhwng Jenny Ogwen, oedd yn arfer cyflwyno rhaglenni teledu Cymraeg, ac Ifan Evans? Wel mae’r ddau â stori i’w dweud am Cliff Richards! Dyma i chi flas ar eu sgwrs nhw ar raglen Ifan...Llofnod - AutographDiawch - Goodness (an exclamation)Naill ai - EitherAr bwys - Near toPaid sôn - You don’t sayGwaetha’r modd - UnfortunatelyTrefdraeth - Newport (Pembrokeshire)Nefolaidd - HeavenlySo ti - Dwyt ti ddimMor gaeth - So restricted ALED HUGHES - SIOE FRECWAST HUW STEPHENS Jenny Ogwen yn fan’na yn sôn am Cliff Richards ac am Ynys y Barri ar raglen Ifan Evans. Aled Hughes oedd yn ateb cwestiynau Cocadwdl-do Huw Stephens wythnos diwetha – dyma i chi gyfle i glywed rhai o gyfrinachau Aled…Cyfrinachau - SecretsYsgwydd - Should
-
Pigion y Dysgwyr 20fed Tachwedd 2020
20/11/2020 Duration: 15minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Elin Angharad – Tro’r Tir Mae Elin Angharad o Fachynlleth ym Mhowys wedi dechrau busnes yn gwneud ac yn gwerthu ategolion lledr. Dyma hi’n sôn wrth griw Troi’r Tir am sut cafodd hi’r syniad o ddechrau’r busnes a sut aeth hi ati i’w sefydlu…Ategolion lledr - Leather accessoriesSefydlu - To establishYmddiddori mewn - To take an interest inDilyn gyrfa - Pursue a careerGweithdy - WorkshopProfiad Gwaith - Work experiencePenblwydd Cardiau Draenog - Bore Cothi Merch arall o Bowys sydd wedi sefydlu busnes ei hunan ydy Anwen Roberts a hi oedd un o westeion Shan Cothi yr wythnos yma. Mae ei chwmni, Cwmni Cardiau Draenog, wedi bod mewn busnes am 10 mlynedd ac mae gan Anwen gynlluniau arbennig am sut i ddathlu hynny. Arbenigo - To specialiseCyfoes - ModernDylunio - To designCasgliad - A collectionYn go llwm - Really toughPe
-
Pigion y Dysgwyr Tachwedd 13eg 2020
13/11/2020 Duration: 13min"S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma..."Clip Sam Thomas – Geraint LloydMae gorsaf radio Bronglais – sef gorsaf radio Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, yn dathlu ei phenblwydd yn 50 oed. Cafodd Geraint Lloyd hanes yr orsaf gan Sam Thomas o Lanafan a dyma i chi flas ar y sgwrs… Gorsaf radio - Radio StationClwb ieuenctid - Youth clubCynhyrchu - To produceSioe geisiadau - Request showCleifion - PatientsDarlledu - To broadcastI ddod ynghlwm - To become involvedGwirfoddoli - To volunteerAmrywiaeth - VarietyCyfoes - ContemporaryClip Mark Drayford – Dewi LlwydHanes gorsaf radio Bronglais yn fan’na ar raglen Geraint Lloyd. Dw i’n siŵr ein bod ni i gyd wedi gweld llawer iawn ar Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn rhoi gwybod i ni am sefyllfa Covid y wlad yn ystod y misoedd diwetha. Fe oedd gwestai Dewi Llwyd dydd Sul diwetha a chlywon ni bod teulu’r Prif Weinid
-
Pigion y Dysgwyr Tachwedd 6ed 2020
06/11/2020 Duration: 14minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Shelley a Rhydian - Sioe Sadwrn Roedd yr actor Ieuan Rhys yn astudio drama yn y coleg pan gafodd ei gyfle cynta i actio’n broffesiynol ac yn fuan iawn dechreuodd actio rhan Sarjant James yn Pobol y Cwm a buodd e’n actio’r rhan hwnnw am flynyddoedd maith. Fe oedd un o westeion Shelly a Rhydian ar y Sioe Sadwrn a dyma fe’n esbonio sut cafodd e ei swydd actio gynta… Cwpla - To finishLan llofft - UpstairsCyfweliadau - InterviewsCwrdd â - To meet Pennod - EpisodeParodd - It lastedHuw Stephens a Huw Chiswell - Sioe Frecwast Radio Cymru 2 Yr actor Ieuan Rhys oedd hwnna’n sôn am sut cafodd o’r cyfle i actio ar Pobol y Cwm. Mae Huw Stephens yn mynnu bod ei westeion yn ateb ei gwestiynau drwy roi’r gair Cocadwdl o flaen yr ateb. Dw i’n siŵr ei bod hi’n ddigon anodd i gofio’r holl atebion yes/no yn Gymraeg heb y dasg y
-
Pigion y Dysgwyr Hydref 30ain 2020
30/10/2020 Duration: 16min"S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” Beti George Cafodd Beti George y cyfle i sgwrsio gydag Aran Jones o’r cwmni Say Something in Welsh ar ddiwedd wythnos dysgwyr BBC Radio Cymru. Yn ôl Aran, mae’r cwmni gafodd ei greu unarddeg o flynyddoedd yn ôl, yn newid cyfeiriad yn y ffordd maen nhw’n dysgu’r iaith. Dyma Aran yn dweud mwy am hyn wrth Beti… Ymdrech sylweddol - A substantial effortAddasiad niwrolegol - a neurological adjustmentArbrofi - To experimentBron yn ddi-baid - Almost non-stopYmenydd - BrainCymhleth - ComplexEitha hyblyg - Quite flexibleDwys - IntenseSyfrdanol - AstoundingCyflawni - To achieveAr y Marc Aran Jones o Say Something in Welsh oedd hwnna’n sgwrsio gyda Beti George. Un fuodd yn defnyddio gwefan Say Something in Welsh i ddysgu Cymraeg ydy’r Almaenwr Klaus Neuhaus. Does gan Klaus dd