Beti A'i Phobol

Manon Awst

Informações:

Synopsis

Yr artist Manon Awst yw gwestai Beti George. Mae hi'n arbenigo mewn celf gyhoeddus ac yn gwneud cerfluniau, gosodiadau a pherfformiadau sy'n archwilio themâu lle, hunaniaeth a thirwedd. Mae ei gwaith diweddar yn ymwneud â chorsydd a mawndiroedd. Fe gafodd wobr i artistiaid gan yr Henry Moore Foundation (2022-23) a Chymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol (2023-2025) fel rhan o raglen Natur Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Magwyd Manon ar Ynys Môn gan fynychu Ysgol Uwchradd Bodedern ac aeth ymlaen i astudio Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt.Bu'n byw ym Merlin am sawl blwyddyn, ac mae ganddi ddarn o waith celf gyhoeddus yn y ddinas sydd wedi ei wneud allan o gregyn gleision o'r Fenai.Mae hi hefyd yn cael ei hadnabod fel bardd ac yn aelod o'r grŵp Cywion Cranogwen ac yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn digwyddiadau fel Y Talwrn ac Ymryson y Beirdd ar BBC Radio Cymru. Yn fam i ddau o fechgyn, Emil a Macsen ac yn briod gydag Iwan Rhys. Cawn hanes difyr ei bywyd ac mae hi'n dewis 4 cân gan gyn