Beti A'i Phobol
Teleri Wyn Davies.
- Author: Vários
- Narrator: Vários
- Publisher: Podcast
- Duration: 0:50:13
- More information
Informações:
Synopsis
" Mae bywyd yn rhy fyr" meddai Teleri Wyn Davies mewn cyfweliad arbennig gyda Beti George. " Mae beth sydd wedi digwydd i Dad wedi siapio fi, ac wedi neud i fi edrych ar fywyd mewn ffordd wahanol".Mae Teleri yn un o gyn-chwaraewyr tîm rygbi Cymru, ac wedi derbyn gwahoddiad i gael chwarae a hyfforddi’r gamp yn Tsieina. Mae hi'n byw yn ninas Shenzen sydd wedi ei lleoli yn ne-ddwyrain Tsieina, dinas gyda phoblogaeth o 17.5 miliwn sy’n cysylltu Hong Kong â'r tir mawr.Mae hi hefyd yn credu y byddai ei phenderfyniad wedi cael sêl bendith ei thad, Brian 'Yogi' Davies, a fu farw yn 56 oed - chwe blynedd ar ôl cael ei barlysu wrth chwarae ei gêm olaf i Glwb Rygbi'r Bala. Naw oed oedd Teleri ar y pryd, ac mae hi'n cofio'r diwrnod yn glir, ac yn trafod dylanwad ei thad a'i mam.Mae hi'n trafod rygbi merched ac yn rhannu straeon ei bywyd yn ogystal â dewis caneuon sydd wedi dylanwadu arni, gan gynnwys cân Mynediad am Ddim - Cofio dy Wyneb. Hon oedd y gân ar gyfer angladd Dad. "Mae jyst yn gân mor neis a mor agos i nghal