Beti A'i Phobol
Kristoffer Hughes
- Author: Vários
- Narrator: Vários
- Publisher: Podcast
- Duration: 0:53:11
- More information
Informações:
Synopsis
Kristoffer Hughes, Pennaeth Derwyddon Ynys Môn ac awdur toreithiog llyfrau am fytholeg a chwedlau Cymru, yw gwestai Beti George. Mae newydd ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant ac wedi penderfynu rhoi'r gorau i'w waith fel 'anatomical pathology technologist'- technegydd patholegol mewn marwdy. Fe fydd hefyd yn gyfarwydd i lawer fel Maggi Noggi, ac mae Kris yn sôn ei fod angen Maggi yn ei fywyd. Mae'n sôn ei fod wedi dioddef o 'body dysmorphia' - " Oni byth yn ffitio mewn, 'o ni'n tyfu i fyny fel hogyn yn symud i mewn i gymdeithas hoyw ac roedd y rheini mor beautiful a doeddwn i jest ddim yn teimlo hynny". Mae Kristoffer hefyd yn siarad am baganiaeth, derwyddiaeth ac yn dewis caneuon sydd yn agos at ei galon, gan gynnwys rhai gan Eden a Bronwen Lewis.